Galw am amddiffyn cynghorwyr rhag ymosodiadau ar y we

  • Cyhoeddwyd
Person yn teipioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae sylwadau ar-lein yn gallu atal ymgeiswyr posib rhag sefyll mewn etholiadau, yn ôl Debbie Wilcox

Mae arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dweud bod angen amddiffyn cynghorwyr rhag ymosodiadau "annerbyniol" ar y we.

Dywedodd Debbie Wilcox bod cynrychiolwyr lleol yn cael eu beio am "bopeth" ymysg toriadau i wasanaethau.

Yn ôl Ms Wilcox, sydd hefyd yn arwain Cyngor Casnewydd, mae merched yn cael eu targedu'n arbennig.

Mae gan awdurdodau lleol ganllawiau am ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, gyda nifer wrthi'n cael eu diweddaru.

Ond mae'r unig ganllaw i Gymru gyfan yn esbonio sut mae defnyddio cyfryngau cymdeithasol, yn hytrach na sut mae diogelu cynghorwyr rhag ymosodiadau.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud na ddylai cynghorwyr gael eu sarhau ar-lein.

'Troi pobl yn erbyn ymgeisio'

Ar hyn o bryd, mae cynghorau Cymru'n ceisio rhoi trefn ar eu cyllidebau, gyda Chyngor Caerdydd yn gorfod arbed £74m dros dair blynedd.

Ym marn Ms Wilcox, yr oll mae'r rhan fwyaf o gynghorwyr yn ceisio'i wneud ydy dal ati yng nghanol y toriadau.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ms Wilcox y dylai'r rhai sy'n beirniadu cynghorwyr ar y we sefyll mewn etholiadau os ydyn nhw am eu herio

Er ei bod yn derbyn bod angen dal cynghorwyr i gyfrif, mae hi'n credu bod sylwadau ar-lein a beirniadu cyson yn atal pobl rhag ymgeisio i fod yn gynghorwyr.

"Mae pawb yn arbenigwr nawr ar sut mae rhedeg y cyngor a be' ddylen i fod yn gwneud, ac mae llwyth o feirniadu ar y cyfryngau cymdeithasol lle mae pawb yn gwybod be' ddylen ni wneud.

"Mae'n hawdd ymgyrchu ar dy gyfrifiadur - cymra'r risg a sefyll fel ymgeisydd ar gyfer etholiad. Os ti'n meddwl galli di wneud yn well na fi, yna defnyddia'r broses ddemocrataidd, achos dydy'r ymosodiadau yma arnon ni drwy'r adeg ddim yn helpu neb, ac mae'n troi pobl yn erbyn ymgeisio."

Ychwanegodd Ms Wilcox bod diffyg gwybodaeth am wleidyddiaeth yn golygu bod cynghorwyr yn cael eu pardduo gan sgandalau sy'n taro gwleidyddion yn San Steffan.

Angen 'croen rhinoseros'

Dywedodd Emily Durrant - cynghorydd cyntaf y Blaid Werdd yng Nghymru - ei bod wedi cael cyngor i beidio ymwneud gormod â throliau ar y we.

"Pan ddes i'n gynghorydd, dywedodd nifer o gynghorwyr profiadol wrtha' i y dylwn i dyfu 'croen rhinoseros' a delio â'r cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd glyfar.

"Mae 'na bryder go iawn, a dwi wedi clywed nifer o straeon erchyll, felly dwi wedi gwneud pwynt o ddysgu triciau am sut i beidio dechrau dadlau efo trolls."

Ffynhonnell y llun, Y Blaid Werdd/Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Emily Durrant (chwith) yn cynrychioli ward Llangors ar Gyngor Powys, tra bod Siân Gwenllian (dde) yn arfer cynrychioli'r Felinheli ar Gyngor Gwynedd

Yn ôl un cyn-gynghorydd sydd bellach yn AC, mae rhai'n "camddefnyddio" cyfryngau cymdeithasol i ymosod ar wleidyddion.

"Yn anffodus, mae trolio ar-lein ac ymosodiadau yn rhywbeth dyddiol i lawer o bobl ac mae llawer yn teimlo bod dim rheolaeth bellach ar y sefyllfa," meddai Siân Gwenllian.

"Fel AC, a chyn hynny fel cynghorydd, dwi wastad wedi trio defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol fel ffordd o gyfathrebu gyda'r bobl dwi'n eu cynrychioli a'u hysbysu nhw am y gwaith dwi'n ei wneud, a chlywed adborth.

"Roedd pobl yn falch o gael eu hysbysu ac roedden nhw'n gefnogol, er bod pobl o bryd i'w gilydd yn camddefnyddio'r platfformau hyn ac yn medru bod yn annifyr iawn."