Cofio'r hen eiriau Cymraeg

  • Cyhoeddwyd

Fyddwch chi'n mynd i'r gwaith ar eich 'deurodyr dur' neu efallai y byddwch yn dal 'y gerbydres haearn'? Dau air sy' bellach wedi diflannu o'n iaith bob dydd, ond a arferai gael eu defnyddio i ddisgrifio 'beic' a 'thrên'.

Ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru, 25 Medi bu'r darlledwr Gerallt Pennant yn trafod rhai o'r hen eiriau Cymraeg sy' ddim yn cael eu defnyddio erbyn hyn:

"Dwi fath â phioden yn hel geiriau a meddwl wnâi eu defnyddio nhw rhyw ddydd ar ryw achlysur, mae'n ffordd o gael bach o hwyl."

'Trontol'

"Dwi'n hoff iawn o ddweud y gair 'Trontol'. Yn ôl cyfeillion yng nghyffiniau Dolgellau, os wyt ti mewn tafarn a maen nhw'n gofyn i ti pa fath o wydr gymri di, os gymri di wydr efo clust... trontol - fedri di gael dy bedwar bys rhwng y trontol a'r gwydryn. Mae cwpan de yn wahanol, clust sy' gan y gwpan ond trontol sy' ar wydr cwrw."

'Awrlais'

"Mae 'awrlais' yn air da arall [am oriawr neu gloc], dwi'n credu bod 'awrlais' yn cael ei ddefnyddio mewn hen gân Gymraeg hiraethus... 'hen awrlais dyner...'"

'Y Bywddarluniau Ymadroddus'

"Pan symudais i fyw i Borthmadog, roedd cymydog i mi, y diweddar Robert Eiddior, yn gymeriad ac wrth ei fodd yn bathu geiriau... oedd o byth yn dweud ei fod o'n mynd i'r Pictiwrs. Oedd o'n mynd i'r Bywddarluniau Ymadroddus. 'Dwi 'di bod yn gweld Rocky 3 medda fo, 'yn y Bywddarluniau Ymadroddus'!"

Disgrifiad,

Y bonheddwr Gerallt Pennant sy'n trafod hen eiriau y mae e'n credu y dylid eu hadfer

Dyma restr lawn o'r geiriau a drafododd Gerallt Pennant ar y rhaglen:

Sbwrlas - coedyn ar ongl 45 gradd i gryfhau polyn ffens

Trontol - clust ar wydr peint neu gwpan fawr

Deurodyr Dur - beic

Diddosben - het neu ambarel

Awrlais - cloc

Y gerbydres haearn - trên

Llynlleifiaid - Lerpwl

Perdoneg - piano

Llodrau - trowsus

Llogell - poced neu bwrs

Mogra - gair Pen Llŷn am ardal Aberdaron

Bwldagu - hel esgusodion (ardal Sir Gaerfyrddin)

Bywddarluniau Ymadroddus - Sinema

Brochus - tywydd garw (hoff air y darlledwr Dei Tomos)

Stryllwch - tywydd gwaeth (hoff air y naturiaethwr Twm Elias)

Crymffast - hogyn mawr wedi prifio yn gyflym

Crymffastiau - criw ohonyn nhw!

Bygylwr - bygythiwr (o eiriadur William Owen Pughe)

Cywestach - y weithred rywiol (o eiriadur William Owen Pughe)

Hwntian - simsanu dan ddylanwad y ddiod feddwol (o eiriadur William Owen Pughe)

Sgwdihwlffwch - un o gyfarchion Harri Gwynn

Fedrwch chi feddwl am ragor? Ebostiwch cymrufyw@bbc.co.uk.