Byth rhy hwyr

  • Cyhoeddwyd
Emma a WillFfynhonnell y llun, Emma Lewandowicz

Wrth i filoedd o fyfyrwyr yn eu harddegau gychwyn am fywyd newydd mewn coleg neu brifysgol, mae Emma Lewandowicz o Gaernarfon yn falch ei bod hi wedi aros tan ei bod yn 24 oed cyn gwneud hynny.

A hynny er fod yn rhaid iddi adael ei mab bach pedair oed, Will, adre yng ngogledd Cymru tra mae hi'n astudio dylunio graffeg yng Ngholeg Camberwell, Llundain.

Bu'n dweud ei hanes ar raglen Bore Cothi, Radio Cymru, 25 Medi.

Mae Will yn bedair oed ac newydd ddechrau'r ysgol yn llawn amser ond mae Emma'n gobeithio y bydd y dair blynedd anodd hebddo yn ei galluogi i roi bywyd gwell iddo yn y pen-draw.

A bydd hithau, gobeithio, yn gallu gwneud gwaith mae hi'n ei garu hefyd wedi iddi brofi'r cynnwrf o fyw yn Llundain ac astudio mewn coleg celf uchel ei barch.

Ond dydi'r siwrnau heb fod yn un llyfn ac enillodd Emma le yn y coleg er nad oes ganddi gymwysterau uwch na TGAU.

Roedd hi wedi dechrau astudio Celf, Cemeg a Bywydeg i lefel AS, ond doedd hi ddim yn cael hwyl arni a theimlai yn fethiant. Daeth o hyd i waith fel gweinydd mewn bwyty lleol yn lle.

"Oni'n meddwl mod i 'di gwneud y dewis anghywir, wedi bomio allan, wedi methu, felly dyna pam wnes i adael a mynd i weithio," meddai.

"Nes i drio llwyth i bethau i drio gwella nghyfle i gael gwaith ar ôl hynny ond doedd dim byd yn gweithio," meddai Emma.

"Nes i drio mynd i'r coleg i wneud ieithoedd, dyna oni isio ei wneud am weddill fy mywyd ar y pryd. Ro'n i'n gwneud ieithoedd waci fel Japanese a Rwsieg, ond roedden nhw'n rili anodd!

"Dwi di bod yn uchelgeisiol erioed, isio herio fy hun.

"Ond oni ddim yn gwneud rhywbeth oni'n meddwl fyse'n helpu fi yn y dyfodol. Oni'n rili styc.

"Doedd dim byd yn gweithio, ond nes i ddisgyn i fewn i graffics ar ddamwain, a dyna sydd wedi ngwthio i o'r diwedd i Uni, sy'n boncyrs!"

Cyfle

Felly sut ddigwyddodd y 'ddamwain' i rywun oedd yn ddechreuwr llwyr yn y maes?

Erbyn hyn roedd Emma yn gweithio ym mwyty Dylan's yng Nghricieth ac fe ddywedodd uwch gynllunydd graffeg y cwmni wrthi pa raglenni roedd o'n eu defnyddio.

Cafodd Emma afael ar gopïau treialu am ddim o'r rhaglenni yma a gofynnodd am brosiect i'w wneud ganddo er mwyn ei helpu i ganolbwyntio.

Fe roddodd dasg iddi ddylunio'r cylchlythyr nesaf i'r staff. Fe wnaeth hi job cystal arni fe roddodd y gwaith iddi o hynny allan.

Pan sylweddolodd y penaethiaid mai hi oedd yn gwneud y cylchlythyr cafodd dreulio diwrnod yr wythnos yn gweithio ar ddylunio graffeg i'r cwmni. Cyn hir roedd y diwrnod wedi troi'n dri a hithau'n rhannu ei hamser rhwng gweini ar y byrddau a dylunio.

"Roedd o'n ffantastic, oni'n gallu dysgu sut i iwsho'r rhaglenni 'ma a chreu portffolio heb yn wybod i fy hun," meddai Emma.

Oriau hir

Ond efo plentyn bach, a hithau wedi cychwyn cwrs arall, roedd teithio bob dydd i Gricieth yn ormod i Emma ac fe adawodd ar ôl tair blynedd er mwyn cael swydd mewn bwyty yn nes adre yng Nghaernarfon.

"Erbyn hyn, ro'n i'n gwneud diploma efo'r brifysgol agored, ieithoedd eto, so oni'n gorfod codi am bump neu chwech o'r gloch y bore, codi Will a'i gael yn barod i'r ysgol. Mynd â fo i'r ysgol, dreifio lawr i Gricieth, gwneud fy shifft, dreifio i nôl Will tua chwarter i chwech cyn i'r feithrinfa gau a wedyn mynd adra, gwneud bwyd, stydio eto a gwneud y gwaith graffics cyn mynd i gysgu a chychwyn eto.

"Oni yn trio am tua blwyddyn ond oedd o mor high-pressured.

"Yn y diwedd nath mam ddeud 'os ti isio mynd i Uni, cer, ac mi wna i gadw Will efo fi."

Ffynhonnell y llun, Emma Lewandowicz
Disgrifiad o’r llun,

Mam Emma, Sue, fydd yn gofau am Will wrth i yntau gychwyn ar antur newydd yn yr ysgol gynradd

Erbyn hyn roedd Will newydd droi'n bedair oed a chychwyn ysgol yn llawn amser.

"Ac mi wnaeth dad ddeud, 'os ti ddim yn newid rwbath am dy fywyd di rŵan, fyddi di'n styc yn neud hyn am weddill dy fywyd'."

Felly er nad oedd gan Emma'r cymwysterau lefel A iawn i gael ei derbyn ar y cwrs, fe wnaeth gais drwy UCAS. Fe wnaeth Camberwell ei derbyn yn ddi-amod ar sail ei phortffolio yn unig.

Fel arfer mae myfyrwyr yn gwneud cwrs sylfaen yn gyntaf hefyd, ond cafodd Emma ei derbyn yn syth i'r flwyddyn gyntaf ar gryfder ei gwaith.

"Dwi mor falch mod i 'di disgwyl tan oni'n 24 i ddewis cwrs neu ffordd mewn bywyd, yn lle ei wneud o pan oni'n 18.

"Oni mor lwcus. Dwi'n gwybod yn well be dwi isio'i wneud rŵan.

"Mae'r diolch am hynny i'r cyfle wnaeth Dylan's roi i fi i chware o gwmpas efo graffic design a nes i ffeindio 'dwi'n dda yn neud o, dwi'n rili licio fo, dwi'n passionate am y pwnc'."

Ffynhonnell y llun, Emma Lewandowicz

Ond, er iddi orfod gwneud y penderfyniad anodd i adael Will, iddo fo mae'r diolch pennaf ei bod yn cychwyn ar y cyfnod cynhyrfus yma yn ei bywyd, a hefyd i'w rhieni cefnogol.

"Fyswn i byth yn Llundain heb Will, fo oedd o drive i mi fynd i Uni a chael gradd a job iawn ond, heb mam yn enwedig fyswn i byth yma, mae hi'n amazing," ychwanegodd Emma.

Mae hi'n gobeithio y gall hi wneud bywyd gwell iddi hi ei hun a'i mab rŵan - doedd gweinyddu ddim yn talu digon iddi gael ei thŷ ei hun a'r oriau amrywiol yn golygu ei bod i ffwrdd o Will am gyfnodau hir.

"Efo graphic design, os dwi'n llwyddiannus ar ddiwedd y cwrs ma, fydda i'n gallu gweithio adra ella, dwi di dechra busnes fy hun yn barod.

"Dio ddim yn gyfnod rhy hir, mae o'n bedair rŵan, fydd o'n dod i fyny at saith pan dwi'n gorffan, dwi'n teimlo fydd y berthynas ddim yn rhy strained, dwi'n gobeithio fydd o ddim 'di anghofio fi," meddai Emma sy'n bwriadu mynd adre at Will bob pythefnos.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Emma ar Radio Cymru ei bod yn llawn cynnwrf am fyw yn Llundain lle mae cymaint i'w weld a'i wneud