Arestio dyn am 'gynllwynio i gyflenwi terfysgwyr'

  • Cyhoeddwyd
Ataul HaqueFfynhonnell y llun, Heddlu Sbaen

Mae dyn busnes o Gaerdydd wedi'i arestio yn Sbaen ar amheuaeth o gynllwynio i gyflenwi terfysgwyr ag offer ysbïo.

Roedd gan Ataul Haque, 34 oed ac yn wreiddiol o Bangladesh, fusnesau yng Nghaerdydd a Chasnewydd.

Fe wnaeth Heddlu Sbaen arestio Mr Haque yn ystod cyrch o'i gartref yn ninas Merida ddydd Gwener.

Cafodd ei frawd, Siful, oedd yn haciwr ar gyfer y Wladwriaeth Islamaidd, ei ladd mewn cyrch awyr gan yr Unol Daleithiau yn Syria yn 2015.

Roedd Mr Haque yn arfer bod yn gyfarwyddwr â chwmni dylunio gwefannau Ibacstel yng Nghaerdydd, a sylfaenodd gwmni Etakeout yng Nghasnewydd.

Ym mis Awst fe wnaeth ymchwiliad gan yr FBI honni bod Ibacstel yn ariannu terfysgaeth ac yn cyflenwi'r Wladwriaeth Islamaidd ag offer ysbïo blaengar.

Mae achos llys yn Maryland eisoes wedi arwain at gefnogwr Americanaidd o'r Wladwriaeth Islamaidd i bledio'n euog i dderbyn $9,000 gan y cwmnïau o Gymru i ariannu ymosodiad yn yr Unol Daleithiau.