Darlledwyr o fri

  • Cyhoeddwyd
John Humphrys, cyflwynydd rhaglen Today ar Radio 4: Y Cymro uchaf yn y rhestr
Disgrifiad o’r llun,

Mae John Humphrys yn dal i roi amser caled i wleidyddion ar BBC Radio 4

Mae dau ddarlledwr o Gymru wedi ennill eu lle ar restr y mae'r 'Radio Times' wedi ei chyhoeddi, dolen allanol o gyflwynwyr radio gorau'r BBC dros yr hanner can mlynedd ddiwethaf.

Gyda llaw, doedd BBC Radio Cymru ddim yn rhan o'r arolwg neu mi fyddai'r rhestr yn edrych yn dipyn gwahanol!

Cafodd y rhestr ei llunio wedi i'r cylchgrawn ofyn am farn beirniaid radio, arbenigwyr a rheolwyr yn y byd darlledu.

John Humphrys, cyflwynydd Today ar BBC Radio 4 yw'r Cymro cyntaf ar y rhestr yn rhif 13.

Mae'r newyddiadurwr 74 oed o Gaerdydd wedi bod yn cyflwyno'r rhaglen newyddion foreol ers blynyddoedd lawer. Mae'n dal i roi nosweithiau di-gwsg i wleidyddion cyn ac ar ôl iddyn nhw gael eu holi'n dwll ganddo.

Cerys Matthews yw'r cynrychiolydd Cymreig arall ar y rhestr yn rhif 49. Bydd Cerys, 48, yn fwy adnabyddus i'r rhan fwyaf o bobl fel lleisydd y band Catatonia. Ond yn ddiweddar mae hi wedi ennyn parch o fewn y cylchoedd cerddorol am ei rhaglen fore Sul ar BBC 6 Music. Mae hi hefyd yn cyflwyno rhaglenni dogfen ar orsafoedd radio eraill y BBC.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cerys Matthews wedi denu cynulleidfa ffyddlon i'w rhaglen fore Sul ar BBC 6 Music

Felly, pwy sydd yn y 10 uchaf yn ôl y gwybodusion?

10 Uchaf Cyflwynwyr Radio Gorau'r BBC yn y 50 mlynedd ddiwethaf yn ôl arolwg y 'Radio Times'.

1) Terry Wogan

2) John Peel

3) Sue MacGregor

4) Annie Nightingale

5) Alistair Cooke

6) Kenny Everett

7) Jane Garvey

8) Humphrey Lyttleton

9) Eddie Mair

10) Jenni Murray