Dim camau disgyblu am sylw 'annerbyniol' Elis-Thomas

  • Cyhoeddwyd
Dafydd Elis-Thomas

Fydd Dafydd Elis-Thomas ddim yn wynebu camau disgyblu gan Lywydd y Cynulliad er gwaethaf canfyddiad ei fod wedi rhegi tuag at ACau Plaid Cymru yn y Senedd.

Yr wythnos diwethaf fe ofynnodd Adam Price AC i'r Llywydd ddyfarnu a oedd cyn-arweinydd Plaid Cymru wedi defnyddio "iaith seneddol dderbyniol" yn ystod trafodaeth yn y Siambr.

Dywedodd Elin Jones ei bod hi'n "derbyn" ei fod "wedi defnyddio'r term 'right wing shits'" ac y byddai'n "ei atgoffa nad yw'r fath iaith yn dderbyniol".

Fe gadarnhaodd yr Arglwydd Elis-Thomas na fyddai'n wynebu cosb ond ni wnaeth sylw pellach.

'Dim eto'

Cafodd sylw'r Arglwydd Elis-Thomas ei wneud yn ystod dadl yn y Senedd ar garchar arfaethedig ym Mhort Talbot.

Wrth ymateb i Mr Price ddydd Mawrth, dywedodd Ms Jones: "Er na chlywais i'r sylw ar y pryd, a dyw e heb ymddangos yn y cofnodion, ar ôl trafod a phobl oedd yn bresennol, dwi'n derbyn fod Dafydd Elis-Thomas wedi defnyddio'r term 'right wing shits' o'i sedd.

"Byddaf yn ysgrifennu at Dafydd Elis-Thomas er mwyn ei atgoffa nad yw'r fath iaith yn dderbyniol ac na ddylai ei defnyddio yn y Siambr eto."

Ym mis Hydref 2016, fe benderfynodd yr Arglwydd Elis-Thomas i adael Plaid Cymru ac eistedd fel AC annibynnol.

Cyn gadael roedd AC Dwyfor Meirionydd a chyn-lywydd y Cynulliad wedi cael ei ddisgyblu gan arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood am feirniadu polisi'r blaid.

Mae llefarydd ar ran y Llywydd wedi cadarnhau ei bod wedi ymateb i'r Arglwydd Elis-Thomas a Mr Price ond wedi gwrthod gwneud sylw pellach.