Y Felinheli: Y lle i fod?
- Cyhoeddwyd
Roedd 'na warws yn arfer bod yn Y Felinheli o'r enw The Boatshed, lle'r oedd hwyliau cychod yn cael eu hadeiladu.
Ond erbyn hyn, mae pedwar o bobl ifanc wedi dod at ei gilydd i newid yr hen warws i fod yn "ofod creadigol" - SHED.
Y rhai tu ôl i'r fenter ydy Catrin Siriol, sy'n rheolwr prosiectau, y gwneuthurwr ffilm Rhys Edwards, Dan Parry Evans y dylunydd graffeg, a'r ffotograffydd Kristina Banholzer.
"Mi oedd y pedwar ohona' ni isho prosiect i weithio arno fo a pan welon ni bod yr adeilad ar gael, wnaethon ni benderfynu mynd amdani!" meddai Kristina.
"Mi oedda' ni isho dod â'n sgiliau ni at ei gilydd i greu gofod i bobl leol o bob oedran fedru ei ddefnyddio.
"Wnaethon ni roi pres ein hunain i wneud y lle i fyny, a gwneud y gwaith i gyd ein hunain efo help ffrindia' a theulu!"
Felly be' sy'n digwydd yn SHED?
"Mae ganddo' ni Infinity Curve sef stiwdio ffilm a ffotograffiaeth," eglurodd Kristina.
"Mae'r stiwdio yma hefyd yn dyblu i fyny i fod yn sinema boutique sy'n dal 16 o bobl.
"Mae ganddo' ni ofod arddangosfa, ardal cyfarfod, 'stafell golygu, 'stafell hot desking a gwagle mawr i fedru rhoi digwyddiadau 'mlaen."
Mae'r safle ar gael i'w rentu i'r cyhoedd, ac mae llawer o bethau wedi cael eu cynnal yno'n barod.
"Hyd yn hyn 'dan ni wedi ffilmio i raglen Hansh, rhaglen Deuawdau Rhys Meirion, recordio 360 Maes B hefo Yws Gwynedd a ffotoshŵt sioe Mwgsi efo'r Frân Wen," meddai Kristina.
"Mi fydd y sinema ar gael i'w rentu yn y flwyddyn newydd hefyd!"
Mae 'na sawl digwyddiad wedi cael eu cynnal yno hefyd gan gynnwys parti dathlu coroni Gwion Hallam, lansiad llyfr newydd Ffion Dafis, noson blasu gwin a marchnad retro-vintage.
Y gobaith ydy cael amryw o ddigwyddiadau llai yn arwain at y Nadolig cyn cynnal gweithdai ffilm a ffotograffiaeth, arddangosfeydd celf a gigs yn y flwyddyn newydd.
Ond be' ydy'r apêl o fyw yn Felinheli, sy'n frith o bobl a theuluoedd ifanc?
"Mae yna dri ohonom yn byw yn Y Felinheli ac yn caru byw yma," meddai Kristina.
"Mae'r Felinheli yn lle grêt i fyw oherwydd y bobl - mae'n gymuned lyfli! Mae 'na lot o bobl creadigol hunan-gyflogedig yma, a mae pawb yn y gymuned yn barod i gefnogi'n gilydd.
"Mae'r gefnogaeth 'dan ni wedi cael gan bobl Y Felinheli hyd yn hyn wedi bod yn anhygoel!
"Dwi'n meddwl bod yna buzz yma ar y funud, yn enwedig ymysg y bobl ifanc a dwi'n gobeithio bod SHED wedi ysbrydoli pobl ifanc yr ardal i fod yn greadigol a dangos iddyn nhw bod unrhyw beth yn bosib."
Lluniau: Kristina Banholzer