Llai o fyfyrwyr rhyngwladol o du allan i'r UE yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
MyfyrwyrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pobl o Asia yw'r garfan fwyaf o fyfyrwyr rhyngwladol sy'n astudio ym Mhrifysgolion Cymru

Mae nifer y myfyrwyr rhyngwladol o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd sy'n mynychu prifysgolion Cymru wedi gostwng.

Yn ôl sefydliad Prifysgolion Cymru, roedd 16.2% yn llai o unigolion o wledydd y tu allan i'r UE yn astudio yma yn 2015/16 o'i gymharu â 2013/14.

Mae'r ymchwil yn awgrymu bod y gostyngiad yn cyfateb â cholled o £59.8m i CDG (Cynnyrch Domestig Gros) Cymru - sef holl werth unrhyw beth sy'n cael ei gynhyrchu gan wlad yn economaidd.

Dros yr un cyfnod fe wnaeth nifer y myfyrwyr rhyngwladol o'r tu allan i'r UE wnaeth fynd i astudio yn Lloegr a'r Alban gynyddu rhywfaint.

Budd economaidd

Daw hyn wrth i'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, baratoi i ymweld â Fietnam ddiwedd mis Tachwedd mewn ymdrech i sicrhau fod gan Gymru enw da fel man i astudio.

Fodd bynnag, bychan yw'r newid o ran myfyrwyr rhyngwladol o'r UE rhwng 2013/14 a 2015/16 - sef cyfnod cyn canlyniad y refferendwm i adael yr UE.

Disgrifiad,

Iwan Davies: Llai o fyfyrwyr yn dod "oherwydd newidiadau fisa"

Mae sefydliad Prifysgolion Cymru yn dweud bod "myfyrwyr rhyngwladol yn dod â buddion diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd anferth i Gymru".

Fe astudiodd 22,190 o fyfyrwyr rhyngwladol ym mhrifysgolion Cymru yn ystod 2015/16 - cyfuniad o 5,460 o unigolion o wledydd yr UE ag eithrio'r DU, a 16,730 o'r tu allan i'r UE.

Maen nhw'n cynrychioli 17% o gyfanswm nifer y myfyrwyr yng Nghymru.

Daw'r garfan fwyaf o fyfyrwyr rhyngwladol o Asia (44%), ac yna'r UE (25%), Affrica (11.3%) a'r Dwyrain Canol (12.5%).

Mae dadansoddiad Prifysgolion Cymru o effaith economaidd y myfyrwyr rhyngwladol hyn yn datgelu, yn ystod blwyddyn academaidd 2015/16, i'r grŵp yma gyfrannu £716m at economi Cymru.

Ceisio gwyrdroi'r sefyllfa

Maen nhw hefyd yn dweud bod eu heffaith hefyd wedi creu 1,598 o swyddi mewn ardaloedd o Gymru sydd heb bresenoldeb prifysgol.

Roedd y gostyngiad mwyaf yn niferoedd y myfyrwyr o Dde Asia.

Mae Prifysgolion Cymru yn gobeithio bydd y gostyngiad yn cael ei wyrdroi gan waith "rhagweithiol Llywodraeth Cymru a phrifysgolion Cymru".

Mae cenhadaeth fasnach ac addysg Kirsty Williams i Fietnam yn rhan o fenter Global Wales, dolen allanol, sy'n ceisio recriwtio myfyrwyr drwy hyrwyddo prifysgolion Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.

Fietnam ac UDA yw'r marchnadoedd sy'n cael eu blaenoriaethu gan y fenter.