Trethi Cymru: Codi trothwy treth dai

  • Cyhoeddwyd
gwerthu tai

Ni fydd pobl sy'n prynu tŷ sy'n werth llai na £180,000 yng Nghymru yn talu unrhyw dreth pan fydd fersiwn Cymru o'r dreth stamp yn cael ei chyflwyno ym mis Ebrill.

Yn y cynllun gwreiddiol ar gyfer y Dreth Gweithrediadau Tir, ni fyddai treth ar gartrefi sy'n costio hyd at £150,000.

Daeth y newid wedi i'r Canghellor, Phillip Hammond gyhoeddi na fyddai pobl sy'n prynu eu cartref cyntaf yn talu'r dreth ar eiddo sy'n werth hyd at £300,000 yn y Gyllideb fis diwethaf.

Dyw'r newid yng Nghymru ddim ar gyfer prynwyr tro cyntaf yn unig, ac fe ddywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yn lleihau'r baich treth i tua 24,000 o brynwyr yma.

Maen nhw hefyd yn dweud y bydd prynwr eiddo yng Nghymru yn talu oddeutu £500 yn llai o dreth nag y bydden nhw o dan yr hen dreth stamp, ac y bydd tua 80% o brynwyr tro cyntaf yng Nghymru yn talu dim treth o gwbl - yr un canran a fydd yn elwa o newidiadau'r Canghellor i dreth stamp yn Lloegr.

I'r rhai sy'n prynu eiddo drytach yng Nghymru, mae cyfradd y dreth fydd yn daladwy wedi cynyddu. Dyma'r trothwy ar gyfer pob band o'r dreth newydd:

  • £0 - £180k = 0%
  • £180k - £250k = 3.5% (yn lle'r 2.5% gwreiddiol)
  • £250k - £400k = 5%
  • £400k - £750k = 7.5%
  • £750k - £1.5m = 10%
  • £1.5m + = 12%.
Disgrifiad o’r llun,
Yn ôl yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford AC, y nod ydy gwneud treth yn fwy teg yng Nghymru.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Cymru, Mark Drakeford: "O dan y newidiadau i'r graddfeydd o Dreth Gweithrediadau Tir yr wyf yn eu cyhoeddi, ni fydd oddeutu 65% o bryniant tai yn gorfod talu treth.

"Bydd y newidiadau o fudd i fwy o brynwyr na chynllun y Canghellor sydd wedi'i dargedu at brynwyr tro cyntaf - bydd mwy na hanner y prynwyr yma'n elwa o dalu llai o dreth o gymharu â'r dreth stamp.

"Mae hyn yn gyson gyda fy nod o wneud treth yn fwy teg a chyfrannu at Gymru fwy cyfartal.

"Bydd y graddfeydd gwell yn gymorth i gwrdd ag anghenion a blaenoriaethau Cymru ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl."