Addysg grefyddol: Dyneiddwyr wedi eu 'hatal' rhag cynghori

  • Cyhoeddwyd
Dosbarth
Disgrifiad o’r llun,

Mae dyneiddwyr yn galw am fwy o gynrychiolaeth o'u credoau mewn addysg grefyddol

Mae honiad nad yw dyneiddwyr yn cael rhoi eu barn ar addysg grefyddol mewn ysgolion.

Mae grŵp Wales Humanists yn galw am aelodaeth lawn i gorff cynghori ar addysg grefyddol, Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG), sy'n goruchwylio'r pwnc mewn ysgolion.

Yn ôl y gymdeithas Gymreig o CYSAG, y broblem yw dogfen lywodraethol sy'n nodi mai ond grwpiau crefyddol all fod yn aelodau llawn.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn asesu'r sefyllfa.

Aelod rhannol

Gwaith y CYSAG yw cynnig cyngor i ysgolion ac awdurdodau lleol ar addysg grefyddol a chydaddoli.

Gan nad ydyn nhw'n grŵp crefyddol, dim ond fel aelod rhannol y mae dyneiddwyr yn gallu cyfrannu, ac nid ydyn nhw'n cael pleidlais lawn.

Dywedodd Kathy Riddick o Wales Humanists bod credoau seciwlar yr un mor bwysig â rhai crefyddol mewn cymdeithas fodern.

"Mae addysg grefyddol yn ymwneud â dysgu moeseg", meddai.

"Pan nad yw plant yn credu mewn crefydd, y cwestiwn yw, mae'n bosib nad yw o ble maen nhw'n cael eu moesau yn cael ei drafod."

Ychwanegodd bod dyneiddiaeth yn ymwneud â "thrin eraill fel hoffech chi gael eich trin".

Dywedodd Ms Riddick bod cynrychiolwyr ar rai CYSAG, ond bod cynghorau lleol eraill wedi gwrthod ceisiadau.

Mae hi'n galw am newid y ddogfen i gynnwys dyneiddwyr a grwpiau tebyg eraill.

Ystyried y sefyllfa

Wrth ymateb, fe wnaeth Gill Vaisey o Gymdeithas Gymreig y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol gydnabod gobaith dyneiddwyr i gael "mwy o gynrychiolaeth".

Ond roedd hi'n cwestiynu sut y gall hynny fod yn bosib pan nad yw'r ddogfen lywodraethol yn eu dynodi fel enwad crefyddol.

Ychwanegodd bod y gymdeithas wedi gofyn am arweiniad gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y llywodraeth eu bod yn ystyried y sefyllfa.