Gwasanaeth bysiau i garchar y Berwyn o dan fygythiad

  • Cyhoeddwyd
Carchar y Berwyn
Disgrifiad o’r llun,

Hanner llawn yw carchar y Berwyn ar hyn o bryd ers cael ei agor y llynedd

Does dim darparwyr bysiau wedi eu darganfod i gludo pobl i garchar y Berwyn, ddau fis ar ôl i'r cwmni oedd yn gwneud y gwaith rhoi'r gorau iddi.

Fe roddodd cwmni D Jones and Son y gorau i fasnachu ym mis Rhagfyr.

Roedden nhw'n darparu cludiant ar gyfer ysgolion a gwasanaethau lleol yng ngogledd ddwyrain Cymru.

Mae'r cyngor wedi dweud ei bod hi wedi bod yn anodd dod o hyd i gwmni i gludo pobl i lefydd "llai deniadol".

Gwasanaethau i'r cymunedau

Maen nhw hefyd yn cydnabod "y rôl bwysig" sydd gan y rhwydwaith er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad gwaith, addysg a gwasanaethau hanfodol.

Dywedodd yr aelod ar gyfer yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd David A Bithell, fod y newyddion bod cwmni D Jones and Son wedi rhoi'r gorau iddi wedi bod yn "anodd iawn ac yn amser heriol i nifer o bobl.

"Rydw i'n bles iawn gyda'r gwaith sydd wedi ei wneud i sicrhau gwasanaethau eraill i'r cymunedau sydd wedi eu heffeithio."

Ond mae'r AS lleol Ian Lucas yn dweud ei fod yn cael lot o gwynion am fysiau yn y dref.

"Hanner llawn yw carchar y Berwyn. Ond mae'n mynd i gynyddu," meddai.

Dim sicrwydd

Dywed adroddiad i'r awdurdod nad yw hi'n bosib rhoi "sicrwydd y bydd yr holl wasanaethau yn dychwelyd" ac yn "bendant" na fydd y bysiau yn mynd mor aml.

Y rheswm am hyn meddai'r ddogfen yw nad oes llawer o gerbydau ar gael yn lleol a bod yna gyfyngder ar y gallu i roi cymhorthdal i wasanaethau sydd yn llai hyfyw yn fasnachol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r AS Ian Lucas yn dweud nad yw cwmnïau bysiau mawr yn fodlon cynnig gwasanaethau ar gyfer teithiau llai proffidiol

Mae'r AS Llafur Ian Lucas yn dweud nad yw cwmnïau bysiau mawr yn fodlon darparu gwasanaethau ar gyfer llwybrau sydd ddim yn broffidiol ac mae hynny'n gadael ardaloedd heb unrhyw wasanaeth.

"Mae'r holl sefyllfa yn anfoddhaol ac yn rhwystredig iawn".

Dywedodd Cyngor Wrecsam y bydd bws rhif 42 i Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam a bws 44 Garden Village yn dechrau gweithredu o ddydd Llun.

Bydd pobl oedd yn teithio ar y bws rhif 6 o Wrecsam i Riwabon hefyd yn elwa o daith X5 Corwen- Llangollen-Wrecsam o 12 Fawrth.

Ychwanegodd y cyngor o 11 Fawrth y bydd bws rhif 5 rhwng Wrecsam a Llangollen yn dychwelyd i wasanaethu Rhostyllen hefyd.