Barry Bennell: Hunllef mam cyn-bêl-droediwr o Bwllheli

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Peta Pollitt ei bod wedi beio ei hun am flynyddoedd

Mae mam o Wynedd wedi bod yn disgrifio'i hunllef ar ôl i'w mab ddweud wrthi hi fod y cyn-hyfforddwr pêl-droed Barry Bennell wedi ei gam-drin yn rhywiol gan gynnwys ei dreisio pan yn fachgen ifanc.

Ar ddiwrnod ble cafodd Bennell ddedfryd o 31 mlynedd am nifer o droseddau rhyw, mae Peta Pollitt o Bwllheli wedi siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf gyda rhaglen Manylu ar BBC Radio Cymru.

Siaradodd am brofiadau erchyll ei mab Matthew Monaghan pan roedd yn chwarae i dîm ieuenctid Crewe Alexandra.

Mae Mr Monaghan yn honni i Bennell ei dreisio ddwywaith yn ei gartref.

'Byswn i'n gallu ei dorri fo yn ei hanner'

Dywedodd Peta Pollitt: "Ma' just meddwl amdano fo yn troi fy stumog... dwi'n cofio ar un adeg o'n i just isho lladd o.

"Bob tro dwi'n meddwl amdano fo... dwi'n crynu.

"Dwi'm yn deip i ddal dig efo pobl, dwi'n meddwl bo fi reit ddistaw yn fy hun.

"Ond swni'n ei weld o... dwi'n siwr y byswn i'n gallu ei dorri fo yn ei hanner 'efo dwylo fi fy hun."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Am flynyddoedd fe gadwodd Matthew y cyfan iddo'i hun ac mae Peta wedi ei chael yn anodd dygymod â hynny

11 oed oedd Mr Monaghan pan ymunodd â thîm ieuenctid Crewe Alexandra - The Railway Juniors.

Gan ei fod yn byw mor bell, roedd yn aml yn aros yn nhŷ Bennell ar benwythnosau, ac roedd Ms Pollitt dan yr argraff fod y trefniant yn gweithio'n hwylus.

Dywedodd: "Ar y pryd roedd pawb yn meddwl fod Crewe yn le da. O'dd o'n boblogaidd i'r hogia bach ifanc ac yn enw da.

"O'dd o'n mynd yna bob dydd Sadwrn a weithiau ar y wicend..."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu Matthew yn chwarae i Gymru yn gyson pan yn ifanc

Ond fisoedd yn ddiweddarach, fe ddechreuodd Bennell fynd i 'stafell wely Mr Monaghan gyda'r nos, ac mae'n dweud iddo gael ei gam-drin yn rhywiol.

Mae Mr Monaghan yn dweud ei fod wedi dioddef y cyfan yn dawel ac nad oedd wedi gallu rhannu dim gyda neb - ddim hyd yn oed ei fam.

Ychwanegodd Ms Pollitt: "Ella weithiau fod o 'di mynd yn 'chydig mwy distaw ond neshi'm rili meddwl dim byd ar y pryd.

"Ti'n meddwl... hogyn bach yn ysgol drwy'r wythnos, pêl-droed ar wicends a Matthew yma ac acw, a pawb yn ffonio isho fo joinio clwb nhw.

"Oni just yn meddwl yn aml mai blinedig o'dd o."

Chwalu'r freuddwyd

Yn 1989 arwyddodd Matthew, yn 14 oed, i Manchester United.

Daeth yn gapten tîm Cymru dan 15, 16 ac 18 oed a chafodd gytundeb proffesiynol gyda Man Utd yn 16 oed.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

'O'dd pawb yn dre yn meddwl dio'm yn gall yn lluchio hwn i ffwrdd'

Roedd yn rhan o ddosbarth 1993 ac yn chwarae ag enwogion fel Ryan Giggs, David Beckham, Phil a Gary Neville a Paul Scholes.

Ond yn 19 oed daeth y freuddwyd i ben ac roedd ei fam methu deall beth oedd wedi mynd o'i le.

"Cafon ni alwad gan Man Utd ac athon ni lawr - oddan ni'n ista ar un ochr y desg a Mr Alex Ferguson yr ochr arall.

"O'dd o'n rhwbio ei ben ac yn d'eud I can't believe it, he wants to leave, and I've told him he's going to be in the first team.

"O'dd yna petha bach yn digwydd ond neshi ddeud erioed - os ti'm yn hapus tyd adra - ma' yna wbath arall i'w gael bob amser.

"O'dd pawb yn dre yn meddwl dio'm yn gall yn lluchio hwn i ffwrdd.

"Dwi'n cofio Alex Ferguson yn rhoi'r cheque ar un ochr... a deud take it with you Matthew and think seriously about what you are doing and come back."

Achosion llys

  • Yn 1994 fe gafodd Barry Bennell ei garcharu yn Florida am bedair blynedd am ymosodiad rhyw ar fachgen 13 oed.

  • Daeth cnoc ar ddrws Mr Monaghan gan yr heddlu yn 1997 yn holi os oedd e wedi cael ei gam-drin.

  • Yn 1998 fe gafwyd Bennell yn euog eto o 23 cyhuddiad o droseddau rhyw yn erbyn chwe phlentyn rhwng naw a 15 oed.

  • Ond cafodd 22 cyhuddiad arall yn erbyn yr hyfforddwr, gan gynnwys rhai Mr Monaghan, eu cadw ar y ffeil.

  • Yn 2015, roedd Bennell yn y carchar unwaith eto ar ôl pledio'n euog i ymosodiad rhyw ar fachgen arall yn y 1980au.

  • Y flwyddyn olynol, daeth nifer o chwaraewyr pêl-droed ymlaen i rannu eu profiadau o gamdriniaeth gan Bennell - yn eu plith roedd Mr Monaghan.

  • Ym mis Chwefror 2018, cafodd Bennell ei ddedfrydu i 31 mlynedd o garchar am gam-drin 12 bachgen rhwng 1979 a 1991.

Am flynyddoedd, fe wnaeth Mr Monaghan gadw ei gyfrinach yn dawel, ac mae Ms Pollitt wedi ei chael yn anodd dygymod â hynny.

Dywedodd: "O'dd gynnai ryw deimlad, fedrai'm deutha chdi be o'dd o... o'n i'n gwybod fod yna rywbeth yn bod.

"Yn diwedd mi ddoth allan bod o'n cymryd cyffuriau a dwi'n cofio pwshio fo lawr ar y couch a deud. Hyn nai ddim rhoi i fyny 'efo a dwi'm yn coelio bo ti'n neud y ffasiwn beth.

"Mae'n rhaid i ti gael help rwan neu dyna fo... a dwi'n cofio fo'n crio a deud Mam dwi angen help."

Euogrwydd

Ar ôl deall bod ei mab wedi ei gam-drin aeth Ms Pollitt drwy nifer o emosiynau: "Guilt... Pam nesh i adael iddo fo fynd?

"O'dd yna rywbeth yn mater 'efo fi yn gadael i hogyn bach ifanc fynd i chwarae pêl-droed? Pam na fyswn i di deud - ti'm yn cael mynd?

"Dwi di rhoi'r bai arna fi fy hun am flynyddoedd a flynyddoedd a meddwl bo' fi'n fam ddrwg.

"Ti'm yn meddwl am betha felna yn digwydd i dy fab... fysa ti byth. Doedd na'm byd yna i ddangos a dwi di trio meddwl a meddwl be 'swn i 'di gallu ei weld i stopio hyn rhag digwydd ond nesh i'm gweld dim byd."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Barry Bennell yn ymddangos dros linc fideo o'r carchar yn Milton Keynes yn ystod yr achos yn Llys y Goron Lerpwl. Bydd e'n cael ei ddedfrydu ddydd Llun

Yn Llys y Goron Lerpwl yr wythnos ddiwethaf cafwyd Bennell yn euog o 43 o gyhuddiadau yn ymwneud ag ymosodiadau rhyw difrifol yn erbyn 11 chwaraewr ifanc.

Roedd eisoes wedi pledio yn euog i 7 cyhuddiad yn erbyn bachgen arall.

Fe gafodd ei ddedfrydu ddydd Llun i 31 mlynedd dan glo.

Mae'r heddlu'n dweud eu bod nhw bellach yn ymchwilio i gyhuddiadau eraill yn erbyn Bennell - sydd erbyn hyn yn dioddef o ganser.

Yn ôl Mr Monaghan, mae'n rhan o'r ymchwiliad ac yn ysu i wynebu Bennell yn y llys.

Ond yw hynny'n ddigon i Ms Pollitt: "Neith Matthew byth anghofio a mi 'na i byth anghofio tan y diwrnod dwi'n marw.

"I fi, 'di o ddim yn digon da ei weld o'n marw am fod ganddo ganser a 'di o'm yn ddigon da ei fod yn mynd i'r carchar am ddim ots faint o flynyddoedd.

"Dwi isho Matthew gael gwbod bod [Bennell] wedi mynd i fewn am be na'th o i Matthew a ddim just iddo fo, ond i lot o hogia bach eraill hefyd.

"Dyna be mae o angen rwan - a fi. Just cyfiawnder."

Manylu - Dydd Llun Chwefror 19 am 12:30 ar BBC Radio Cymru.