Galw am gofrestr trawma corfforol i blant dan bedair

  • Cyhoeddwyd
NSPCC

Mae pediatrydd blaenllaw yn galw am sefydlu cofrestr genedlaethol o'r holl achosion o drawma corfforol i blant dan bedair oed.

Daw'r alwad ar ôl ymchwiliad gan raglen Newyddion 9, sy'n dangos bod cynghorau sir wedi gorfod ymchwilio i dros fil o achosion o gam-drin bob blwyddyn ers tair blynedd.

Yn ôl Dr Dewi Evans, mae'n rhaid sefydlu cofrestr ganolog er mwyn pwysleisio maint y broblem.

O'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, fe wnaeth 10 ddarparu atebion i gais rhyddid gwybodaeth BBC Cymru, fe wnaeth chwe awdurdod wrthod ateb.

'Maint y broblem'

Dros gyfnod o dair blynedd, cafodd dros 3,000 o achosion o drawma corfforol eu hymchwilio mewn plant dan bedair oed.

Mae'r union ffigwr yn debyg o fod gryn dipyn uwch.

Mae Dr Dewi Evans yn bediatrydd blaenllaw, gyda degawdau o brofiad.

Mae hefyd yn dyst arbenigol mewn llysoedd barn ar draws Prydain ac Iwerddon, a'i dystiolaeth yn allweddol i benderfynu â yw babanod wedi cael eu cam-drin.

Mae'r ffigurau meddai'n cadarnhau "maint y broblem."

Disgrifiad,

Mae Dr Dewi Evans yn bediatrydd blaenllaw, gyda degawdau o brofiad.

Mae trawma corfforol yn cynnwys achosion yn ymwneud ag anafiadau corfforol, camdrin emosiynol, esgeulustod a cham-drin rhywiol.

Yn 2016 roedd amcangyfrif fod 178,900 o blant dan bedair oed yng Nghymru.

Mae'r ffigurau'n awgrymu y gallai un ymhob 200 fod yn diodde' trawma corfforol.

Mae'r Dr Dewi Evans am weld y cynghorau yn gorfod hysbysu'n ffurfiol pam mae 'na amheuaeth bod babi'n cael ei ysgwyd - er mwyn creu cofrestr statudol.

Dywedodd: "Er bod gwybodaeth gydag awdurdodau lleol i greu (cofrestr) un sydd yn statudol genedlaethol dros Gymru.

"Fydde hynny ac wedyn arolygu'r peth yn gyson, a chyhoeddi'r ffigyrau bydde hynny yn dangos patrymau o le yn ein cymunedau mae'r broblem waethaf.

"Bydde hynny yn helpu ein cynulliad ni i fuddsoddi arian lle mae angen. Drwy ddefnyddio'r dystiolaeth hynny fydde pawb yn dihuno lan, pawb o'n gwleidyddion ni i gydnabod fod gyda ni broblem yng Nghymru ac mae'n bryd i ni wneud rhywbeth amdano fe," meddai.

'Ail-adeiladu bywydau'

Mae nifer o glefydau eisoes yn cael eu cofnodi'n gyhoeddus - yn eu plith clefydau prin fel y frech goch, gwenwyn bwyd a'r dwymyn doben.

Mater bach medde Dewi Evans fydde ymestyn hyn i gynnwys trawma i fabanod ac mae ar fin ysgrifennu'n ffurfiol at yr Ysgrifennydd Iechyd i alw am hynny.

"Ond wrth gwrs yn defnyddio'r ffigyrau hyn mae da chi dros ddeugain o blant bob wythnos yng Nghymru lle mae angen rhyw fath o arolwg oherwydd honiadau o gamdriniaeth"

Mewn datganiad dywedodd NSPCC Cymru "bod angen astudiaeth ar draws Prydain i gam-drin plant ac esgeulustod - er mwyn taflu goleuni ar union faint y broblem".

Ychwanegodd: "Mae'n hanfodol fod pob un plentyn sydd wedi dioddef camdriniaeth yn cael cefnogaeth amserol ac addas er mwyn galluogi'r plant i ail-adeiladu eu bywydau"

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n ystyried llythyr Dr Evans yn ofalus pan fydd yr Ysgrifennydd Iechyd wedi ei dderbyn.