Cymru'n gorffen yn ail ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad

  • Cyhoeddwyd
Cymru FfraincFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,
Liam Williams yn sgorio unig gais Cymru yn y fuddugoliaeth yn erbyn Ffrainc

Mae tîm rygbi Cymru'n dathlu ar ôl llwyddo i orffen yn ail ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi buddugoliaeth yn erbyn Ffrainc.

Roedd hi'n gêm glos serch hynny, gyda Chymru'n methu 26 tacl ac yn ildio'r meddiant ar sawl achlysur.

Fe ddechreuodd y gêm yn llawn cyffro gyda gôl adlam Francois Trinh-Duc o fewn pedair munud yn arwydd o fygythiad Ffrainc.

Ond o fewn munud i hynny, fe diriodd Liam Williams y bêl am gais cynta'r gêm.

Disgrifiad,

Gwyn Jones yn crynhoi'r bencampwriaeth wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Ffrainc

Methiant oedd ymdrech Lee Halfpenny i drosi'r cais, ond llwyddodd i sicrhau tri phwynt o gic gosb bum munud yn ddiweddarach.

Fe drosodd Halfpenny ail gic gosb cyn i Ffrainc ddod yn ôl i mewn i'r gêm gyda chais gwych gan Gael Ficko.

Yn ffodus i Gymru, methiant oedd yr ymdrech i drosi'r cais hwnnw, ac fe aeth Halfpenny â'r crysau cochion ymhellach ar y blaen gyda chic gosb 34 munud i mewn i'r gêm.

Y sgôr ar y hanner oedd Cymru 14-10.

Roedd yr ail hanner yn anniben gan y ddau dîm ar adegau, gyda Ffrainc yr unig dîm i sgorio pwyntiau.

Serch hynny, llwyddodd Cymru i chwarae'n amddiffynnol ac atal Les Bleus rhag rhoi rhagor o bwyntiau ar y sgorfwrdd a mynd ar y blaen.

Y sgôr terfynol felly, Cymru 14-13 Ffrainc, gyda'r capten, Alun Wyn Jones yn cael ei ddewis yn seren y gêm.

Disgrifiad,

Gorffen yn ail yn y bencampwriaeth oedd y nod, medd y bachwr Ken Owens

Ffynhonnell y llun, Dan Mullan
Disgrifiad o’r llun,
Iwerddon yn dathlu ennill y Gamp Lawn yn Twickenham

Yn gynharach ddydd Sadwrn, fe lwyddodd Iwerddon i sicrhau'r Gamp Lawn am y trydydd tro yn eu hanes, gyda buddugoliaeth o 24-15 yn erbyn Lloegr.

Ar ôl bod ar ei hôl hi am gyfnod hir yn Rhufain, daeth yr Alban yn ôl i gipio buddugoliaeth o 27-29 yn erbyn yr Eidal.

Gall Cymru ddathlu dod yn ail ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad felly wedi tair buddugoliaeth a dwy golled.