Rhybudd melyn yn parhau wedi i eira trwm ddisgyn

  • Cyhoeddwyd
eira
Disgrifiad o’r llun,

Caeau Pontcanna yng Nghaerdydd fore Sul

Mae rhybudd eira a rhew'r Swyddfa Dywydd yn parhau wedi i gawodydd gaeafol ddisgyn dros nos Sadwrn a bore dydd Sul.

Mae yna rybudd melyn "byddwch yn ymwybodol" mewn grym ar draws Cymru tan hanner nos nos Sul, ac mae yna rybudd melyn o rew ar gyfer dydd Llun.

Mae rhai cynghorau eisoes wedi cyhoeddi y bydd rhai o'u hysgolion ynghau ddydd Llun.

Bydd pob un o ysgolion Blaenau Gwent ar gau, tra bydd rhai ysgolion ynghau mewn ardaloedd eraill. Mae'r manylion ar eu gwefannau:

Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa ger Llanrwst

Disgrifiad o’r llun,

Bwydo'r defaid yn yr eira ger Llanerfyl

Roedd disgwyl eira yn y de a'r canolbarth gan fwyaf ond fe ddisgynnodd eira yn y gogledd hefyd, gyda hyd at chwe modfedd yn disgyn yn ardaloedd Llanrwst a'r Bala.

Disgrifiad,

Y ffermwr Geraint Roberts sy'n disgrifio'r her o ofalu am ei ddefaid yn yr eira ar ochrau'r Berwyn

Ffyrdd ar gau

Fe effeithiodd yr eira ar nifer o ffyrdd ddydd Sul, gan gynnwys yr A476 yng Ngharmel, Sir Gâr, a'r A4061 Bwlch a Rhigos a'r A4233 Y Maerdy yn Rhondda Cynon Taf.

Cafodd ffyrdd yr A487 rhwng Gellilydan a'r B4391 Ffestiniog a'r A44 rhwng Aberystwyth a Llangurig eu cau am gyfnod hefyd ond maen nhw wedi ail agor bellach.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan SWP_Roads

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan SWP_Roads

Cyhoeddodd Heddlu'r De lun o gar ben i waered yn y clawdd ar yr A48 ger Pen-y-bont. Yn ffodus, chafodd y gyrrwr ddim o'i anafu.

Roedd oedi ar Bont Hafren am fod un lôn wedi ei chau i'r ddau gyfeiriad oherwydd gwyntoedd cryfion.

Cafodd awyrennau eu canslo i Amsterdam a Pharis o Faes Awyr Caerdydd ben bore oedd yn golygu oedi i Ffrancwyr oedd wedi dod i'r brifddinas ar gyfer y gêm rygbi yn erbyn Cymru ddydd Sadwrn.

Maen nhw wedi dechrau gadael y maes awyr erbyn hyn, wrth i wasanaethau ailddechrau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae eira wedi taro sawl rhan o Gymru gan gynnwys Ffair Rhos yng Ngheredigion

Disgrifiad o’r llun,

Car wedi taro polyn lamp ar Ffordd Llantrisant ger Radyr yng Nghaerdydd

Yn y brifddinas, dywedodd cwmni Bws Caerdydd eu bod yn parhau â mwyafrif eu gwasanaethau yn ôl yr arfer, ond dywedodd Trenau Arriva Cymru fod problemau ar y lein rhwng Casnewydd a Henffordd.

Fe amharodd y tywydd ar y gwasanaeth trenau rhwng Llanheledd a Glyn Ebwy hefyd.

Y cyngor i deithwyr yw i fynd ar ei gwefan am y diweddaraf.

Gwasanaethau fferi

Cafodd gwasanaethau fferi rhwng Cymru ac Iwerddon eu gohirio neu eu canslo.

Cafodd gwasanaeth Irish Ferries 08.45 a 11.45 rhwng Dulyn a Chaergybi eu canslo a hefyd yr 11.50 a'r 17.15 i'r cyfeiriad arall.

Disgrifiad o’r llun,

Plant yn mwynhau'r eira yng Nghaerffili

Yn ogystal â hynny, fe ganslodd Stena Line y croesiad am 14.00 ar yr un llwybr, a dydy'r gwasanaethau fferi rhwng Abergwaun a Rosslare ddim yn teithio yn ystod y dydd chwaith.

Cafodd gêm bêl-droed Caerdydd i ffwrdd yn erbyn Derby, ei gohirio.

Mae hynny wedi cythruddo llefarydd Clwb Cefnogwyr Caerdydd, Vince Alm, sy'n galw am ymchwiliad er mwyn deall pam fod y gêm wedi ei chanslo.

Penderfyniad 'gwarthus'

Dywedodd ar Facebook bod 2,600 o gefnogwyr Yr Adar Gleision wedi gwneud yr ymdrech i deithio i Derby a dywedodd rheolwr y clwb, Neil Warnock, fod y penderfyniad i ohirio'r gêm yn "warthus".

Ond dywedodd Derby County nad oedd y stadiwm mewn cyflwr saff ar gyfer y cefnogwyr, staff a'r swyddogion.

Ffynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae map y Swyddfa Dywydd yn dangos rhybudd melyn o rew dros ran helaeth o Gymru ddydd Llun

Dyw hanner marathon Casnewydd ddim yn digwydd chwaith o achos y tywydd. Dyma'r eildro iddi gael ei chanslo o achos y tywydd.

Fydd yna ddim rasio ceffylau yn Ffos Las, Caerfyrddin ddydd Sul oherwydd yr eira.