Cwpan China mewn 200 gair

  • Cyhoeddwyd
gareth baleFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae tîm pêl-droed Cymru yn nwyrain Asia ar hyn o bryd ar gyfer Cwpan China 2018.

Dyma fydd gemau cyntaf Cymru ers i'r rheolwr newydd, Ryan Giggs, gymryd yr awenau. Ond beth yn union yw Cwpan China?

Dyma esboniad mewn 200 gair...

Pwrpas y gystadleuaeth?

Cystadleuaeth wadd yw Cwpan China rhwng pedwar tîm rhyngwladol. Y dyn busnes Wang Jianlin sefydlodd y gystadleuaeth - ei gwmni Dalian Wanda sy'n berchen ar Atlético Madrid.

Dyma'r ail waith i'r gystadleuaeth gael ei chynnal, gyda Chile yn ennill Cwpan China 2017.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd tîm Cymru wahoddiad i Gwpan China yn dilyn y llwyddiannau ym Mhencampwraiethau Euro 2016 a gododd proffil y genedl

Pwy sydd yng Nghwpan China eleni?

Bydd Cymru'n wynebu China yn gyntaf ar Mawrth 22, ac yna Uruguay neu'r Weriniaeth Tsiec mewn gêm derfynol neu gêm am drydydd lle ar Mawrth 26.

Pwy fydd y sêr bydd Cymru'n wynebu?

Mae gan Uruguay nifer o sêr byd-enwog, fel Luis Suarez o Barcelona, Edinson Cavani o Paris Saint-Germain a'r capten Diego Godín o Atlético Madrid.

Efallai does gan y Weriniaeth Tsiec ddim yr enwau mawr fel yr oedd ganddynt yn y gorffennol, ond mae ganddynt chwaraewyr o safon fel Vladimír Darida o Hertha Berlin.

Does dim un o chwaraewyr China'n chwarae tu allan i'r wlad, ond mae'r asgellwr Wu Lei o glwb Shanghai SIPG yn cael ei ganmol yn fawr.

Mae'n debyg mai'r enw mwyaf sy'n gysylltiedig gyda charfan China yw eu rheolwr Marcello Lippi a enillodd Cwpan y Byd gyda'r Eidal yn 2006.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Luis Suarez, yr ymosodwr sydd wedi sgorio 49 o weithiau dros Uruguay mewn 95 gêm

Lle fydd Cymru'n chwarae?

Bydd y gemau'n cael eu chwarae yn Nanning, dinas yn ne China sydd â phoblogaeth o saith miliwn.

Mae'r stadiwm yn dal 60,000 o gefnogwyr, ond er hyn does yr un tîm pêl-droed o'r ddinas yn agos at brif gynghreiriau China.

Mae Nanning yn cael ei hadnabod fel 'Y Ddinas Werdd' oherwydd ei pharciau niferus, ac mae'r tymheredd cyfartalog ym mis Mawrth tua 20C.

Gallwch wylio'r gêm yn fyw ar Cymru Fyw, gyda sylwebaeth BBC Radio Cymru, am 11:25 ddydd Iau.