Gill: Dim dyfodol i UKIP yn dilyn y cytundeb Brexit cywir

  • Cyhoeddwyd
Nathan Gill

Does gan UKIP ddim dyfodol ac fe ddylai ddod i ben os caiff y cytundeb iawn ei sicrhau ar Brexit, meddai cyn-arweinydd y blaid yng Nghymru.

Dywedodd yr Aelod Seneddol Ewropeaidd, Nathan Gill, y gallai'r blaid fod wedi bod yn "anhygoel" i Gymru, ond nad oedd dim wedi cyflawni dim oherwydd ffraeo mewnol.

Dywedodd Mr Gill, a adawodd y Cynulliad wedi dadleuon, y byddai UKIP "yn farw" petai cytundeb Brexit yn cael ei wneud yn iawn.

Wrth ymateb, dywedodd UKIP Cymru nad yw Mr Gill yn siarad ar ran y blaid ac y byddai'n parhauâa'i gwaith yn dilyn cytundeb Brexit.

Daw sylwadau Mr Gill wedi i'r cyn Aelod Seneddol Ceidwadol, Neil Hamilton gael ei ddisodli fel arweinydd grŵp UKIP yn y Cynulliad ddydd Iau, ac i Caroline Jones AC cael ei dewis fel olynydd.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Neil Hamilton ei ddisodli fel arweinydd grŵp UKIP yn y Cynulliad wythnos diwethaf, a chafodd ei olynu gan Caroline Jones

Fe adawodd Mr Gill y Cynulliad ym mis Ionawr yn dilyn beirniadaeth ei fod yn cael ei dalu i wneud dwy swydd.

Dywedodd ar raglen Sunday Supplement BBC Wales nad oedd dyfodol i UKIP petai'r Ceidwadwyr yn sicrhau'r cytundeb iawn ar Brexit.

"Mae'r holl beth i fyny i'r Ceidwadwyr.. Os byddan nhw'n methu, gall UKIP godi o'r lludw eto, ond fe allan nhw'n lladd ni drwy sicrhau Brexit cadarn, da.

"Byddai'n well gen i ein bod ni'n gwneud yr hyn roedden ni wastad yn mynd i'w wneud, sef sicrhau Brexit a cherdded oddi ar y llwyfan.

"Os cawn ni'r Brexit a gafodd ei addo i ni, ac a ymladdon ni amdano, yna dwi'n methu gweld ar gyfer beth fyddwn ni'n bodoli."

Cafodd Mr Gill ei hun ei ddisodli fel arweinydd UKIP yng Nghymru gan Mr Hamilton, yn fuan wedi i'r blaid ennill ei seddi cytnaf yn y Cynulliad yn 2016.

Gwrthod sylwadau

Gwrthod sylwadau Mr Gill wnaeth AC UKIP, Neil Hamilton, ddywedodd fod y blaid yn cynnig polisiau gwahanol ar sawl mater fel ysgolion gramadeg a democrateiddio'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Mewn cyfweliad ar raglen Sunday Politics Wales, gwrthododd Mr Hamilton hefyd â chadarnhau na fydd e'n ceisio adennill ei swydd fel arweinydd grŵp UKIP yn y Cynulliad.

Dwedodd y bydd yna "drafodaeth" ddydd Llun ar ddigwyddiadau'r wythnos ddiwethaf.

Dywedodd hefyd fod ei gyd-Aelodau Cynulliad, Michelle Brown, David Rowlands a Caroline Jones wedi penderfynu bod angen arweinydd newydd yn dilyn anniddigrwydd yn ymwneud ag ymddygiad AC UKIP arall, Gareth Bennett.

Pan ofynwyd iddo a fyddai'n ceisio disodi'r arweinydd newydd, Caroline Jones, dywedodd Mr Hamilton: "Dim ond pump aelod sydd gyda ni, mae tri aelod yn fwyafrif.

"Does dim ffordd y galla i ddod yn arweinydd y grŵp oni bai fy mod i'n perswadio aelodau eraill y grŵp i fy nghefnogi i.

"Ar ddiwedd y dydd, mae pwy yw arweinydd y grŵp yn bwysig ar gyfer un peth, sef Cwestiynau'r Prif Weinidog.

"Mae'n sefyllfa ymosodol iawn, ac fe welwn ni ddydd fydd yn digwydd ddydd Mawrth."