Pysgotwr wedi marw ar ôl syrthio i'r môr yn Llandudno
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau fod dyn wedi marw ar ôl syrthio o greigiau i'r mor yn Llandudno.
Cafodd y pysgotwr ei gludo mewn hofrennydd i'r ysbyty yn gynnar fore Sul ar ôl syrthio tra'n pysgota ar greigiau ar Ben y Gogarth.
Cafodd ail ddyn aeth i mewn i'r dŵr i'w gynorthwyo driniaeth gan barafeddygon am effeithiau i'r oerfel.
Gwylwyr y Glannau a'r RNLI yn Llandudno gafodd yr alwad gyntaf i Ben Trwyn tua 07:36.
Llwyddodd gwirfoddolwyr o'r RNLI i gael y dyn i'r lan er mwyn ei gludo i'r ysbyty, cyn achub yr ail ddyn o'r creigiau.