Guto Bebb yn ymddiswyddo o'r llywodraeth dros Brexit

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Guto Bebb bod ganddo "ddim dewis" ond ymddiswyddo ar ôl anghytuno â'r llywodraeth am eu polisi ar Brexit

Mae AS Ceidwadol Aberconwy, Guto Bebb, wedi ymddiswyddo o Lywodraeth y DU ar ôl pleidleisio gyda'r gwrthbleidiau ar gymal o fesur Gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd Mr Bebb wedi pleidleisio yn erbyn gwelliant gafodd ei gynnig gan aelodau sydd o blaid Brexit.

Cyn iddo bleidleisio yn erbyn y llywodraeth ar y gwelliant, fe ildiodd ei swydd fel gweinidog yn yr adran amddiffyn.

Roedd y gwelliant yn cyfeirio'n benodol at yr Undeb Tollau, lle byddai'r llywodraeth yn rhoi'r gorau i gasglu tariff ar ran yr Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit, oni bai fod yna drefniant arall mewn lle.

Fe enillodd y llywodraeth y gwelliant gyda mwyafrif o dair pleidlais yn unig, mewn dadl hwyr yn San Steffan nos Lun.

Yn siarad ar y Post Cyntaf fore Mawrth, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns ei fod yn "flin iawn" bod Mr Bebb wedi gadael ei swydd gan ei fod yn "ffrind agos" ac yn "weinidog arbennig o effeithiol".

Dywedodd bod y gwelliannau gafodd eu derbyn nos Lun yn "gwbl gytûn a chytundeb Chequers" ac felly y byddai'n "rhaid gofyn i Guto am ei resymau" am adael.

Ychwanegodd Mr Cairns nad oedd y llywodraeth wedi ildio i aelodau sydd o blaid Brexit, gan ddweud bod "gwahaniaethau barn ar Brexit ers cyn y refferendwm ym mhob plaid".

Gwrthododd hefyd bod "shambls" yn San Steffan, gan ddweud bod "rhaid canolbwyntio ar beth sy'n digwydd ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd".

Ychwanegodd bod y llywodraeth yn canolbwyntio ar sicrhau bod "fframwaith yn ei le i gymryd cyfleoedd newydd" ddaw wedi Brexit.

Dadansoddiad Elliw Gwawr, Gohebydd Seneddol BBC Cymru

Fe bleidleisiodd Guto Bebb dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd a doedd hi ddim yn gyfrinach ei fod wedi teimlo'n gynyddol rhwystredig gydag ymddygiad rhai o fewn ei blaid a oedd eisiau gadael yr undeb.

Fe gyhuddodd y cyn-Weinidog Brexit David Jones o fod yn "surbwch" ar ôl iddo feirniadu cynllun y Prif Weinidog ar gyfer y berthynas gyda'r UE ar ôl Brexit.

Mae hefyd wedi beirniadu uwch aelodau o'r cabinet am sylwadau "ymfflamychol" ac "anheilwng" ar ôl i'r Ysgrifenydd Iechyd Jeremy Hunt ddweud fod bygythiadau gan fusnesau dros Brexit yn "amhriodol".

Ond yn dilyn cyfres o ymddiswyddiadau o blith y garfan sydd am adael Ewrop, mae penderfyniad Mr Bebb i adael swydd yr oedd yn ei mwynhau yn dipyn o syndod i nifer.

Beth sydd yn fwyaf syfrdanol yw ei fod wedi ymddiswyddo er mwyn gallu pleidleisio ar beth oedd safbwynt y prif weinidog oriau yn unig ynghynt.

Ym mis Mehefin, fe wnaeth Mr Bebb ymosod ar aelodau blaenllaw o'i lywodraeth ei hun am eu hagweddau "diystyriol" tuag at fusnesau ynghylch Brexit.

Wrth ymateb nos Lun i ymddiswyddiad Mr Bebb, dywedodd ei gyd-AS Ceidwadol, yr aelod dros Faldwyn, Glyn Davies, ei fod ddyn ag egwyddorion uchel, a'i fod yn weinidog neilltuol.

"Rydw i'n siomedig fod Guto wedi teimlo nad oedd dewis ganddo ond ymddiswyddo o'r llywodraeth," meddai.

"Mae e'n ffrind da, ac yn weinidog neilltuol. Mae gan Guto egwyddorion uchel, ac mae'n wleidydd talentog.

"Does gen i ddim amheuaeth y bydd ganddo rôl bwysig arall yn y dyfodol."

Cafodd Mr Bebb ei benodi'n is-weinidog yn Ionawr 2018 ar ôl sawl blwyddyn fel is-ysgrifenydd yn Swyddfa Cymru ac yn chwip i'r llywodraeth.

Mae wedi cynrychioli etholaeth Aberconwy i'r Ceidwadwyr ers 2010.