Prif Weithredwr: Eisteddfod yn 'sicr' o barhau i deithio

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Bydd yr Eisteddfod yn parhau i deithio, yn ôl y prif weithredwr, Betsan Moses

Mae'n "sicr" bod rhaid i'r Eisteddfod Genedlaethol barhau i deithio o amgylch Cymru, ond mae cael gŵyl di-faes eleni yn "agor y drws i bosibiliadau" yn y dyfodol, meddai'r prif weithredwr newydd.

Yn siarad ar y Post Cyntaf fore Mawrth, dywedodd Betsan Moses ei bod yn "credu mae'r Steddfod yn gorfod teithio" er mwyn "hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig".

Dywedodd ei bod yn "hollbwysig ein bod ni'n mynd o ardal i ardal" i gymunedau Cymreig a di-Gymraeg i "brofi gwerth y Gymraeg" a "phrofi ei fod yn iaith fyw".

Ychwanegodd y byddai Eisteddfod 2021 yn mynd i Wynedd, a bod sawl ardal yn y sir wedi dangos diddordeb yn barod.

'Agor y drws'

Bydd Ms Moses yn olynu Elfed Roberts fel y prif weithredwr, ar ôl iddo roi'r gorau wedi'r ŵyl yng Nghaerdydd, a hynny ar ôl arwain y trefniadau i 26 Eisteddfod.

Wrth drafod y dyfodol, dywedodd Ms Moses y byddai defnyddio trefi a dinasoedd yn bosibilrwydd eto.

"Mae angen maes sylweddol ar yr Eisteddfod i'w gwireddu hi, ac nid pob ardal sydd â hynny, ond o edrych ar ddefnyddio gofodau penodol a chanol trefi ac yn y blaen, mae'n agor y drws wrth gwrs."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Eisteddfod wedi cyhoeddi map o leoliad holl atyniadau'r ŵyl ym Mae Caerdydd

Ond dywedodd bod modd gwneud elw yn hollbwysig: "Mae'n rhaid sicrhau bod 'na fodd i ni wneud elw, achos allwn ni ddim mynd o fan i fan yn gwneud colled neu fydd na ddim Steddfod.

"Felly beth sydd ishe sicrhau yw o wneud arbrawf, beth y' chi'n gallu ei ennill o ran safio arian, ond hefyd beth yw'r adnoddau sydd ar gael oherwydd mae pobl yn meddwl o fynd i'r bae ein bod ni wedi safio pethwmbreth o arian, ond mae'n rhaid talu rhent, chi ddim yn cael y gofodau 'ma am ddim."

Bydd yr Eisteddfod yn teithio i Lanrwst y flwyddyn nesaf, ac yna i Dregaron yn 2020.

Fore Mawrth, dywedodd Ms Moses y byddai'r ŵyl yn teithio i Wynedd y flwyddyn ganlynol, yn 2021.

"Mi fyddwn ni'n trafod gyda partneriaid yng Ngwynedd a'r cyngor sir o ran pa ardal, mae 'na nifer o ardaloedd eisoes wedi dweud fydden nhw'n dymuno i'r Steddfod i ddod i'w hardal hwy."