Cwest: Nam ar wn oedd achos ffrwydrad tanc laddodd dau

  • Cyhoeddwyd
Matthew Hatfield a Darren Neilson

Mae cwest i farwolaeth dau filwr wedi dod i'r casgliad mai'r prif reswm bod gwn wedi ffrwydro mewn tanc oedd bod modd iddo gael ei danio heb bod mesur diogelwch pwysig yn ei le.

Bu farw'r Corporal Matthew Hatfield, 27 o Wiltshire, a'r Corporal Darren Neilson, 31 o Preston, mewn ffrwydrad yn eu tanc yng ngwersyll hyfforddi Castellmartin, Sir Benfro ym mis Mehefin 2017.

Roedd y dynion, y ddau o Gatrawd Brenhinol y Tanciau, yn cymryd rhan mewn ymarferiad saethu byw fel rhan o'u profion blynyddol.

Mae'r cwest wedi clywed nad oedd sêl a fyddai wedi rhwystro nwyon ffrwydrol rhag cael eu gollwng i'r tyred yn ei le pan wnaeth y dynion danio'r gwn.

'Rhaid dysgu gwersi'

Dywedodd y crwner, Louise Hunt, nad oedd y perygl wedi cael ei brofi'n llawn wrth gael ei adeiladu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Yn ôl Ms Hunt, roedd sawl peth arall wedi ychwanegu at y marwolaethau.

Dywedodd nad oedd proses ysgrifenedig yn ei le er mwyn sicrhau bod y sêl yn gyflawn cyn tanio, ac nid oedd y milwyr chwaith yn gwybod bod y sêl wedi cael ei dynnu i ffwrdd cyn ymarferiad blaenorol.

Yn ystod gwrandawiad cyn y cwest, dywedodd y crwner mai achos marwolaeth Cpl Hatfield oedd llosgiadau, tra bod Cpl Neilson wedi dioddef trawiad ar y galon o ganlyniad i anafiadau oedd yn gysylltiedig â'r ffrwydrad.

Wedi'r dyfarniad, dywedodd gweddw un o'r ddau ddyn a gafodd eu lladd bod "rhaid dysgu gwersi" yn dilyn y digwyddiad.

"Ddylai'r un milwr farw wrth ymarfer", meddai Jemma Neilson, gweddw Cpl Neilson.

"Rhaid dysgu gwersi, rhaid i ddiwylliant newid ac mae'n rhaid i'r Weinyddiaeth Amddiffyn dderbyn eu methiannau a chyflwyno newidiadau ar fyrder.

"Rhaid sicrhau nad oes unrhyw beth fel hyn yn digwydd eto."

Mae'r Fyddin eisoes wedi dweud eu bod wedi gwella eu hyfforddiant, ymarferion gynnau a phrosesau.