Y siom a’r gorfoledd: Profiadau teuluoedd o driniaeth IVF

  • Cyhoeddwyd

Ar 25 Gorffennaf, mae'n 40 mlynedd ers geni Louise Brown - y babi cyntaf i gael ei geni wedi triniaeth IVF.

Mae rhaglen Teulu - IVF, sy'n cael ei darlledu ar BBC Radio Cymru ddydd Llun, yn adrodd hanes pedwar teulu a'r siom a'r gorfoledd wrth fynd trwy brofiadau o IVF.

Mae'r cyflwynydd Catrin Manel, sydd hefyd wedi bod trwy'r driniaeth ei hun, cyn mynd ymlaen i fabwysiadu ei phlant, yn siarad ag eraill sydd wedi profi siom ac hapusrwydd wrth genhedlu eu plant.

Bu Heledd a Nathan Tandy o Benisarwaun yn ceisio'n hir i gael plant, cyn rhoi genedigaeth i'w efeilliaid Elsbeth ac Isaac.

Disgrifiad o’r llun,
Elsbeth ac Isaac

"'Da chi'n sbïo ar o gwmpas tua £8,000 bob un tro da chi'n neud o, a hyd yn oed rŵan dwi'n sbïo ar yr efeilliaid a sgynno nhw ddim syniad faint ma' nhw 'di gostio. Ond maen nhw wedi cyfoethogi mywyd i gymaint, jyst yn y chwech wthnos ma' nhw 'di bod yma," meddai Heledd Tandy.

"'Swn i yn ei 'neud o i gyd eto, a 'swn i siŵr yn talu'r ffortiwn yna i gyd eto oherwydd fedrwch chi ddim rhoi pris ar be' sy' gynno fi rŵan, mae o 'di bod werth o.

"I fi, o'n i'n gw'bod mod i'n mynd i gael teulu a do'n i ddim yn mynd i stopio tan o'n i 'di cael un, doedd dim gymaint a hynny o ots gen i sut, os oeddan nhw'n perthyn trwy waed neu beidio.

"Oedd un o fy ffrindiau gorau yn bedyddio ei merch a wnâi byth, byth anghofio y teimlad o eistedd yn y capel. Dwi'n cofio sbïo rownd ac o'dd pob un sêt arall efo plentyn gyda'u mam a'u tad, a dim ond ein sêt ni oedd efo dau o bobl.

"'Dach chi ddim isho crio a gwneud lle yn annifyr i bobl eraill, ma' nhw yn dathlu bod babi wedi cyrraedd. Ond go iawn, dach chi'n marw tu mewn."

Mae Delyth Morgans Phillips o Lambed bellach yn fam i Tryfan Samuel, ond hir ac emosiynol oedd ei thaith hithau a Rob cyn geni eu plentyn bach, meddai.

Disgrifiad o’r llun,
Catrin Manel gyda Delyth a Tryfan

"Fi'n cofio'r doctor yn dweud wrtha i, mewn ffordd matter of fact, mai IVF byddai'r unig opsiwn. O'n i wrth fy hunan, yn ysbyty Bronglais, ar ôl i'r doctor fynd wnes i dorri lawr a llefen.

"O'n i'n gweld e'n rhywbeth clinigol iawn, oedd rhaid cadw at oriau penodol o'r dydd i roi'r injections. Oedd rhaid cadw dyddiadur a chadw trefn, ac achos bod y peth mor glinigol, oedd 'na method arbennig i wneud pethe, o'n i'n meddwl bod hwn yn mynd i weithio, achos mae'n rhywbeth gwyddonol, penodol i neud.

"Felly'r tro cyntaf hynny wnaeth y driniaeth ddim gweithio, o'dd hynny'n siom. Ond yr ail dro aflwyddiannus wnaeth fy nharo i waetha'.

"Beth benderfynon ni wedyn, oedd i fynd am un cynnig eto, yn breifat y tro hynny. O'n i wedi planno ein bod ni'n mynd i ddechrau'r trydydd cylch ym mis Medi 2016 ac wedi cael y cyffuriau a phopeth yn barod.

"Ond daeth galwad ffôn i fynd lan i Ysbyty Bronglais, ac fe fuodd fy nhad farw. A meddylies i, geith hwn fod nawr, ma' pethe pwysicach 'da fi feddwl ambiti.

"Ond ar ôl rhai wythnosau fe benderfynon ni fwrw mlaen â hi a chael rhywbeth positif i edrych ymlaen ato fe.

"Bore'r canlyniad oedd 15 Tachwedd. O'n i wedi deffro tua 5 y bore i wneud y prawf, ac o'n i ffili credu'r peth bod y canlyniad yn bositif. Fi'n cofio llefen lot y bore hynny."

Roedd efeilliaid Dana a Richard Edwards o Aberystwyth, sef Dafydd a Fflur, ymhlith y mil o fabanod cyntaf i gael eu geni yn yr 1980au.

Disgrifiad o’r llun,
Cyflwynydd y rhaglen Catrin Manel gyda Dana a Richard Edwards

"Doedd dim IVF i gael ar yr NHS bryd hynny, felly yr unig ffordd o dderbyn triniaeth oedd i dalu amdano fe," meddai Richard Edwards oedd yn feddyg teulu yn Aberystwyth.

"Felly bant â ni i Bourn Hall [Caergrawnt] - y clinic cyntaf yn y byd gath ei sefydlu er mwyn IVF a chwrdd â Mr Steptoe.

"Oedd y driniaeth cyntaf yn aflwyddiannus, aethon ni nôl am yr ail dro, eto ddim yn gweithio, a nôl am y trydydd tro ag fe weithiodd e. Yn ffodus iawn i ni, fe gydiodd dau embryo.

"Roedd Dafydd a Fflur ymhlith y mil cyntaf i gael eu geni trwy IVF yn Bourn Hall."

Mae Mari Roberts o Gaerdydd yn sengl a phenderfynodd mai ei chyfle hi i gael plentyn oedd i fynd am IVF ar ei phen ei hun.

Disgrifiad o’r llun,
Mari Roberts a'i mab Idris

"O'n i erioed 'di gweld fy mywyd heb blentyn, felly oedd hi ddim yn gwestiwn a ddyle fi gael plentyn, oedd hi'n gwestiwn o sut o'n i'n mynd i wneud.

"O'n i o hyd yn meddwl 'sen i'n cwrdd â rhywun a byse fe jyst yn digwydd fel 'na, ond pan wnes i ddim, o'n i'n meddwl 'sut mae hyn yn mynd i ddigwydd, sut ydw i'n mynd i gael fy mhlentyn?'

"Mae mynd trwy'r broses IVF yn gallu bod yn emosiynol anodd. Mae'n rhaid cael cefnogaeth teulu a ffrindiau. Bydde cael partner yn haws, dwi'n siŵr ond cael rhywun i siarad efo sy'n bwysig.

"Yn lwcus fe wnaeth y rownd IVF weithio y tro cyntaf i fi. O'n i'n sicr oedd e ddim yn mynd i weithio... ond mae Idris wedi dod! O'n i'n teimlo'n ofnadwy o lwcus bod e wedi gweithio.

"Mae sperm banks ychydig bach fel internet dating lle chi'n mynd ar y we a chi'n gallu cael dewis lliw llygaid, gwallt, taldra, swydd a chi'n cael gwybod am eu teuluoedd nhw a iechyd.

"Roedd yr ysfa gen i i gael rhywun o'n i wedi ei gynhyrchu, rhywun sy'n rhan ohona i, gwbod bod 'na rhywun ar ôl, ar ôl i fi fynd, sydd yn rhan ohona i."

Efallai o ddiddordeb: