Posib defnyddio gemau 'i wneud gwersi'n atyniadol'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Steffan Powell o BBC Newsbeat sy'n yn egluro pam fod gêm Fortnite mor boblogaidd

Mae modd benthyg technegau sy'n cael eu defnyddio mewn gemau cyfrifiadurol fel Fortnite i wneud gwersi'n fwy atyniadol i blant, yn ôl arbenigwr blaenllaw.

Ers ei chyhoeddi yn 2017, mae'r gêm wedi bod yn hynod boblogaidd ymysg plant ac oedolion, gyda rhyw 40 miliwn o ddefnyddwyr ar draws y byd.

Ond mae nifer o ysgolion cynradd yng Nghymru wedi ysgrifennu at rieni i'w cynghori ynglŷn â Fortnite a'u hatgoffa mai dim ond plant dros 12 oed sydd i fod i chwarae'r gêm.

Mae rhai plant yn dod i'r ysgol wedi blino ar ôl chwarae gemau yn ystod y nos, yn ôl un pennaeth.

'Elfennau negyddol a phositif'

Yn Ysgol Gynradd Caerffili, mae'r pennaeth Lynn Griffiths yn dweud eu bod yn ymwybodol o boblogrwydd Fortnite ac yn annog disgyblion i ddefnyddio a mwynhau gemau'n gyfrifol.

"'Dan ni yn ymwybodol bod gemau fel Fortnite yn boblogaidd iawn. Mae lot fawr o ddisgyblion yn chwarae'r gêm," meddai.

"Beth 'dan ni eisiau pwysleisio ydi eu bod yn chwarae'r gemau yma'n gyfrifol a'u bod nhw'n chwarae'r gemau yma yn ystod amseroedd synhwyrol oherwydd mi ydan ni'n ymwybodol bod plant yn chwarae'r gemau yma fin nos ac felly'n flinedig iawn wrth ddod i mewn i'r ysgol."

Ffynhonnell y llun, Fortnite
Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 40 miliwn yn chwarae Fortnite ar draws y byd

Yn ôl yr Athro Paul Howard-Jones, cyn-arolygydd Estyn sydd nawr yn arbenigo ym meysydd addysg a niwrowyddorau ym Mhrifysgol Bryste, mae angen bod yn ymwybodol o rai o'r effeithiau negyddol sydd ynghlwm â gor-chwarae gemau cyfrifiadurol.

Ond byddai hefyd modd defnyddio rhai elfennau o chwarae gemau o fewn y byd addysg.

"Mae rhannau bychain o gemau mae modd eu benthyg a'u gosod mewn gwersi i'w gwneud nhw'n fwy atyniadol ac yn fwy tebygol o annog plant i ddysgu," meddai.

Dywedodd yr Athro Howard-Jones bod technoleg yn cael ei difrïo, ond bod angen nodi mai'r ffordd mae pobl yn defnyddio technoleg yw'r peth pwysicaf.

"Hyd yn oed gydag un o dechnolegau cyntaf dyn, sef tân - mae hwnna hefyd yn gallu bod yn beryglus ond mae hefyd yn gallu bod yn rhyfeddol ac mae'n bwysig iawn i ni," meddai.

"Mae'r un peth gyda thechnoleg fodern. Mae elfennau negyddol a phositif."

Sut all gemau helpu yn y dosbarth?

Mae ymchwilwyr wedi gofyn i blant ateb cwestiynau ond yn lle pwynt am ateb cywir, mae olwyn siawns yn troi ac maen nhw'n cael dau bwynt neu dim o gwbl.

"Mae well ganddyn nhw hynny, maen nhw'n ymateb i hynny, mae'n gyffrous iawn," meddai'r Athro Jones.

"Ac yn syml mae'n troi hynny i rywbeth tebyg i gêm gyfrifiadurol lle mae cyfres o wobrau ansicr."

Yn Ysgol Gymraeg Caerffili, mae Menter Caerffili yn manteisio ar botensial arall gemau cyfrifiadurol. Wrth gynnal clwb "Gemau Fideo" yn yr ysgol, maen nhw'n annog plant i siarad mwy o Gymraeg.

Yn ôl Morgan Roberts o'r fenter, sy'n gyfrifol am y cynllun, mae'n gyfle i'r plant greu cynnwys a chymdeithasu.

"Holl bwynt sianeli YouTube Cymraeg "Gemau Fideo" a "Gemau Retro" yw eu bod nhw'n cael lle i greu cynnwys, joio a chymdeithasu," meddai.

"Hyd yn oed os nad ydyn nhw am greu cynnwys, mae dal modd iddyn nhw gwrdd, chwarae, creu ffrindiau newydd a chymdeithasu yn y Gymraeg.

"Fi'n credu bod rhaid i ni fynd gyda beth bynnag sy'n boblogaidd neu sy'n trendio yn y Gymraeg i'w chadw hi'n iaith fyw."

Llywodraethau ar ei hôl hi?

Er bod rhai yn llwyddo i gymryd mantais o ddealltwriaeth plant o dechnoleg, mae un Aelod Seneddol o Gymru yn teimlo bod llywodraethau a gwasanaethau cyhoeddus ar ei hôl hi.

Mae Chris Elmore, AS Ogwr yn arwain grŵp trawsbleidiol seneddol ar effaith y cyfryngau cymdeithasol ar iechyd meddwl pobl ifanc.

"Mae'n rhaid i ni fel oedolion, athrawon ac arbenigwyr addysg gael y sgwrs yna i ddweud bod hwn yn faes sy'n datblygu," meddai.

"Dyw llywodraethau ddim yn symud yn ddigon sydyn a gyda hynny. Dyw ysgolion, addysgwyr na gweithwyr iechyd ddim ar yr un lefel â chenhedlaeth gyfan o bobl ifanc sy'n defnyddio'r platfformau a gemau hyn."