Diffyg gwerslyfrau cyfrwng Cymraeg yn 'bryder mawr'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae gwerslyfrau Cymraeg yn "hynod bwysig" yn ôl Megan Barett

Mae diffyg adnoddau i ddisgyblion yng Nghymru yn destun "pryder mawr" a gallai'r diffygion gael "effaith wirioneddol" ar eu haddysg, yn ôl pwyllgor o ACau.

Clywodd y grŵp fod diffyg gwerslyfrau ac adnoddau cyfrwng Cymraeg yn golygu bod rhai athrawon yn cyfieithu adnoddau eu hunain.

Yn ôl y pwyllgor plant, pobl ifanc ac addysg roedd hyn yn cymryd cryn amser gan ddyblu gwaith athrawon a chreu anghysondebau o ran y cyfieithiadau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod am "ystyried argymhellion y pwyllgor yn ofalus" a'u bod wedi ymrwymo i ddarparu adnoddau addysgol dwyieithog ar gyfer disgyblion mewn da bryd.

Ysgolion dan straen

Wrth roi tystiolaeth i'r pwyllgor, dywedodd disgyblion ac athrawon fod y prinder adnoddau yn achosi i lefelau straen a phryder gynyddu mewn cyfnod arholiadau.

Daeth i'r amlwg hefyd fod disgyblion yn dysgu mewn gwahanol ffyrdd ac mae'r pwyllgor yn dweud bod rhaid sicrhau bod adnoddau ar gael mewn sawl ffurf, gan gynnwys copi caled a fersiynau digidol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r pwyllgor wedi gwneud 15 o argymhellion, gan gynnwys gofyn i'r ysgrifennydd addysg:

  • Egluro pwy sy'n gyfrifol am sicrhau bod adnoddau ar gael i bob disgybl ar ba bynnag ffurf;

  • Canfod i ba raddau mae athrawon yn cyfieithu adnoddau eu hunain;

  • Cyfieithu'r adnoddau hynny yn ganolog, a'u darparu i athrawon a disgyblion;

  • Sicrhau bod gwerslyfrau sy'n canolbwyntio ar gwricwlwm yn cael eu cynhyrchu yn y dyfodol a'u defnyddio fel y dull o addysgu yn hytrach na'r ffurf bresennol o ddefnyddio gwerslyfrau sy'n canolbwyntio ar gymwysterau.

Er bod y pwyllgor yn deall bod cyfyngiadau cyllid, mae'n credu bod angen ail edrych ar ba adnoddau ddylai fod ar gael i ddisgyblion.

Roedd pryder hefyd am ddiffyg eglurder am bwy sy'n gyfrifol am sicrhau bod gan ysgolion a disgyblion adnoddau digonol.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Lynne Neagle mae angen sicrhau bod y ddarpariaeth Gymraeg yn cael ei chynnig yr un pryd â'r Saesneg

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor bod "prinder adnoddau, nad yw llyfrau weithiau'n cyrraedd tan ganol y flwyddyn ysgol, a bod y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mor anghyson yn destun pryder mawr".

Ychwanegodd Lynne Neagle AC: "Mae angen i ni gael gwybod pwy ddylai fod yn darparu gwerslyfrau, y caiff y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ei chynnig ar yr un pryd â'r ddarpariaeth cyfrwng Saesneg, a bod gwerslyfrau ac adnoddau athrawon yn rhan o'r pecyn craidd o adnoddau sydd ar gael i ddysgwyr."

'Traed moch'

Yn ôl Darren Millar AC mae'r sefyllfa yn "draed moch llwyr", a dydy hi "ddim yn syndod gafodd Cymru ei chanlyniadau TGAU gwaethaf mewn degawd haf diwethaf".

"Dylai Llywodraeth Cymru ymddiheuro i'r myfyrwyr sydd wedi eu heffeithio gan y llanast yma, a chymryd mesurau i sicrhau nad yw unrhyw TGAU neu Lefel A newydd yn cael eu cyflwyno heb fod yr holl ddeunydd addysgu ar gael cyn dechrau'r cwrs," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Elaine Edwards o UCAC wedi croesawu gwaith ymchwil y pwyllgor

Dywedodd Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru, bod angen "sicrhau tegwch a pharch" at ddisgyblion sy'n astudio pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg a'u hathrawon.

Ychwanegodd bod "amserlen diwygio cymwysterau" uchelgeisiol ar fai am y diffyg adnoddau i ddisgyblion a bod "gwersi i'w nodi" wrth ddiwygio'r cwricwlwm a chomisiynu gwerslyfrau yn y dyfodol.

"Mae'n bryd i ni gael ymagwedd gwbl wahanol at yr holl broses, gan gynnwys llawer mwy o bwyslais ar adnoddau Cymreig wedi'u comisiynu a'u cynhyrchu yng Nghymru," meddai.

Ystyried yr argymhellion

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n "ystyried argymhellion y pwyllgor yn ofalus".

"Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod adnoddau i gefnogi'r cwricwlwm a'i gymwysterau ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg ac wedi sefydlu grŵp rhanddeiliaid adnoddau addysgol Cymraeg a dwyieithog i edrych ar ddarpariaeth adnoddau dwyieithog amserol," meddai.

Mae sefydliad Cymwysterau Cymru hefyd wedi dweud eu bod yn nodi sylwadau'r pwyllgor ac yn "ystyried yr argymhellion yn ofalus".