Perfformio gwaith cyfansoddwraig o Gymru yn y Proms

  • Cyhoeddwyd
Morfydd Llwyn OwenFfynhonnell y llun, Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Morfydd Llwyn Owen i'r amlwg yn ystod cyfnod y Swffragetiaid

Mae darn gan y cyfansoddwr Morfydd Llwyn Owen yn cael ei berfformio yn y Proms yn Llundain nos Wener 20 Gorffennaf, a hynny am y tro cyntaf ers ei marwolaeth yn 1918.

Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn perfformio ei gwaith 'Nocturne' mewn cyngerdd sy'n dathlu cerddoriaeth gan gyfansoddwyr a pherfformwyr ifanc.

Roedd Morfydd, oedd yn dod o Drefforest, ond yn 26 oed pan fuodd hi farw, ganrif yn ôl.

Dyma'r eildro i'w gwaith gael ei berfformio yn y Proms - roedd y tro cyntaf yn ôl yn 1917.

O dan arweiniad y prif arweinydd, Thomas Søndergård, bydd y gerddorfa yn perfformio un o'i darnau enwocaf, Nocturne, fel rhan o ddigwyddiad Proms y BBC.

'Rhoi Cymru ar y map'

Daeth Morfydd i'r amlwg yn ystod cyfnod y Swffragetiaid, a'r galw am ragor o hawliau i fenywod.

Symudodd i Lundain yn 1912 i astudio cyfansoddi yn yr Academi Gerdd Frenhinol, a hynny yn ystod cyfnod lle'r oedd yn cael ei gydnabod ei bod yn anodd iawn i fenywod lwyddo.

Ond llwyddodd i godi uwchlaw cyfyngiadau diwylliannol a chymdeithasol yr oes, gan ei gwneud yn llawer haws i fenywod eraill ddilyn ei chamau.

Bu Dr Rhian Davies, cyfarwyddwr artistig Gŵyl Gregynog yn siarad am y gyfansoddwraig o Drefforest gyda John Humphrys ar raglen Today ar BBC Radio 4.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y darn Nocturne yn cael ei berfformio yn yr Albert Hall nos Wener

"Mae hi'n ffigwr pwysig yng Nghymru a thu hwnt," meddai. "Nid yn unig oedd hi'n gyfansoddwr dawnus, ond roedd hi hefyd yn gantores ac yn bianydd medrus.

"Roedd pobl hefyd yn sôn am ei ffraethineb a'i harddwch - roedd hi'n full package.

"Roedd symud i Lundain yn 21 a byw ar ei phen ei hun yn newid byd iddi - roedd hi nawr yn ymwneud â nifer o enwau mawr y cyfnod; y beirdd DH Lawrence ac Ezra Pound, ac wrth gwrs, ei gŵr, Ernest Jones, pensaer dadansoddi seicolegol ym Mhrydain."

Erbyn ei marwolaeth, roedd Morfydd Owen wedi cyfansoddi 250 o ddarnau.

"Roedd y wlad yn crefu am rywun oedd yn gallu cyfansoddi yn ddeheuig ac â thechneg. Rydw i wedi bod â diddordeb ynddi ers yn ifanc - roedd rhywbeth am ansawdd ei cherddoriaeth jest wedi cydio yndda i," meddai Dr Davies.

"Roedd y wasg yn yr 1910au wedi gwirioni arni, ac fe roddodd Cymru ar y map cerddorol rhyngwladol, ac mae hi'n parhau i wneud hynny."