Paul Davies AC yn wfftio honiadau o fod yn "llwyd"

  • Cyhoeddwyd
paul davies

Mae un o'r ymgeiswyr i arwain Ceidwadwyr Cymru wedi wfftio honiadau ei fod yn "llwyd".

Paul Davies yw arweinydd dros dro grŵp y Ceidwadwyr o fewn y Cynulliad ers i Andrew RT Davies ymddiswyddo ym mis Mis Mehefin.

Cafodd Aelod Cynulliad Sir Benfro ei ddisgrifio fel "dyn mewn siwt beige" gan unigolyn o fewn y blaid.

Wrth ymateb i'r honiadau hyn ar raglen Newyddion9 dywedodd Mr Davies: "Dydw i ddim yn meddwl fy mod i'n llwyd. Nid yw fy nghydweithwyr yn meddwl mod i'n llwyd chwaith."

Bydd Mr Davies yn herio Suzy Davies yn y ras i fod yn arweinydd nesaf y blaid yng Nghymru.

Yn ôl Mr Davies mae ei gydweithwyr yn credu mai ef yw'r dyn cywir "nid yn unig i fod yn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad, ond i fod yn Brif Weinidog hefyd".

Disgrifiad o’r llun,

Paul Davies a Suzy Davies ydy'r ddau fydd yn ymgeisio am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol yn y Cynulliad Cenedlaethol

Mae Mr Davies a Ms Davies eisoes wedi nodi eu bod nhw eisiau i'r arweinydd nesaf i gael y teitl 'Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig'.

"Datganoli yw datganoli. Rydyn ni'n amlwg yn datblygu polisiau'n hunain ar lefel y Cynulliad, yn ogystal â datblygu polisiau sydd wedi eu llunio ar gyfer anghenion pobl Cymru," meddai.

Ychwanegodd hefyd ei fod yn gwadu chwarae rôl "llofrydd tawel" wrth ddisodli Andrew RT Davies o'r arweinyddiaeth.

"Roedd yna drafodaeth o fewn y grŵp... fe rannodd pawb eu teimladau a fe weithredodd Andrew mewn ymateb i'r teimladau hyn wrth benderfynu gadael i rhywun arall arwain," meddai.

Perthynas â phleidiau eraill

Mae Mr Davies wedi addo cynnal pleidlais ymysg aelodau'r blaid ynglyn ag unrhyw glymblaid posib yn y dyfodol, hynny ar ôl iddo ddweud y byddai'n fodlon gweithio â Phlaid Cymru.

"Hoffwn feddwl fy mod i'n agored. Fi oedd y rheolwr busnes [y blaid] dros y blynyddoedd diwethaf.

"Rydw i wedi adeiladu perthynas gyda phleidiau eraill yn sgil hynny, a hoffwn feddwl y byddai modd i bobl ymdrin â mi" meddai.

Bydd arweinydd nesaf y blaid yn cael ei gyhoeddi ar 6 Medi.