Diffoddwyr yn delio â thân mewn siop yng Nghaernarfon

  • Cyhoeddwyd
Stryd Y LlynFfynhonnell y llun, Gwenllian Carr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i'r digwyddiad ar Stryd Y Llyn fore Llun

Mae'r gwasanaethau brys wedi bod yn delio gyda thân mewn siop yng nghanol Caernarfon fore Llun.

Cafodd y gwasanaeth tân a'r gwasanaeth ambiwlans eu galw i'r digwyddiad ar Stryd Y Llyn ychydig cyn 09:00.

Dywedon nhw fod chwe chriw wedi bod yn delio â'r fflamau, wnaeth gynnau yn siop ffonau symudol Get Connected ar y stryd.

Roedd mwg i'w weld yn dod o ffenestri'r adeilad, gan gynnwys o'r fflatiau sydd uwchben y siop.

Mae'r fflamau bellach wedi'u diffodd ond bydd criwiau'n parhau yno am rai oriau i sefydlogi'r safle.

Disgrifiad,

Dywedodd John Williams, sy'n gweithio mewn siop arall ar y stryd, bod mwg yn "llifo o'r adeilad"

Bydd y gwasanaeth tân a'r heddlu yn cynnal ymchwiliad ar y cyd i achos y digwyddiad.

Bu'n rhaid i bobl hefyd adael rhai adeiladau gerllaw wrth i swyddogion ddelio gyda'r tân.

Mae'r ffordd ar gau, ac mae'r gwasanaethau brys yn annog y cyhoedd i osgoi'r ardal.

'Mwg a dŵr'

Dywedodd llefarydd ar ran Get Connected mai rheolwr y siop yng Nghaernarfon, Garry Roberts wnaeth alw'r gwasanaethau brys.

"Pan aeth i mewn y bore 'ma, roedd yn gallu arogli mwg ac yn gweld dŵr yn llifo o'r to," meddai'r llefarydd.

"Ry'n ni'n credu bod y tân wedi dechrau yn y fflat uwchben y siop, sy'n wag. Yn ffodus, does neb wedi'u hanafu ac mae pawb yn ddiogel."