Dynes yn gwadu llofruddio ei merch bedair oed

  • Cyhoeddwyd
Carly Ann Harris
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Carly Ann Harris grio wrth gyflwyno ei phle ddydd Llun

Mae dynes 37 oed wedi pledio'n ddieuog i lofruddio ei merch bedair oed yn Rhondda Cynon Taf.

Mae Carly Ann Harris o Drealaw wedi'i chyhuddo o lofruddiaeth a dynladdiad Amelia Brooke Harris.

Cafodd y ferch bedair oed ei chanfod yn farw mewn tŷ yn y pentref ym mis Mehefin.

Fe gafodd Carly Ann Harris ei chadw yn y ddalfa yn Llys y Goron Caerdydd nes dechrau ei hachos yn Llys y Goron Merthyr Tudful ar 10 Rhagfyr.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Amelia Brooke Harris ei chanfod yn farw mewn tŷ yn Nhrealaw fis Mehefin